Gweilch 24–10 Ulster
Mae’r Gweilch fwy neu lai yn sicr o’u lle ym mhedwar uchaf y Guinness Pro12 ar ôl curo Ulster ar y Liberty brynhawn Sadwrn.
Dechreuodd y Gweilch y gêm yn bedwerydd, bwynt uwch ben Ulster yn y pumed safle ac maent bellach yn debygol iawn o gyrraedd y gemau cynderfynol ar ôl trechu’r Gwyddelod.
Croesodd Tom Habberfield am gais cyntaf y gêm wedi dim ond wyth munud yn dilyn dadlwythiad taclus Ashley Beck.
Ychwanegodd Dan Biggar y trosiad o’r ystlys cyn iddo yntau a Paddy Jackson gyfnewid cic gosb yr un tua hanner ffordd trwy’r hanner.
Ymestynnodd y Gweilch eu mantais i bedwar pwynt ar ddeg gyda symudiad olaf yr hanner, ac am symudiad. Bylchodd Dan Evans trwy’r canol o’i hanner ei hun cyn i Tyler Ardron groesi o dan y pyst. Ychwanegodd Biggar y trosiad, 17-3 y sgôr wrth droi.
Bu rhaid i’r tîm cartref wneud tipyn o waith amddiffyn yn yr ail hanner ond gwnaethant hwnnw’n effeithiol a fu dim newid i’r sgôr tan ddau funud o ddiwedd yr wyth deg.
Dyna pryd y sgoriodd Brendon Leonard i’r Gweilch yn dilyn gwaith da Kieron Fonotia i roi tair sgôr rhwng y ddau dîm am y tro cyntaf.
Roedd digon o amser ar ôl i Jacob Stockdale groesi i Ulster ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hynny i’r ymwelwyr.
Mae’r canlyniad yn rhoi’r Gweilch bump pwynt yn glir o Ulster sydd yn y pumed safle gydag un gêm yn weddill. Mae gwahaniaeth pwyntiau’r Gweilch yn well na’r Gwyddelod hefyd felly maent fwy neu lai yn ddiogel o’u lle yn y pedwar uchaf ar ddiwedd y tymor arferol.
.
Gweilch
Ceisiau: Tom Habberfield 8’, Tyler Ardron 40’, Brendon Leonard 79’
Trosiadau: Dan Biggar 9’, 40’, 79’
Cic Gosb: Dan Biggar 25’
.
Ulster
Cais: Jacob Stockdale 80’
Trosiad: Paddy Jackson 80’
Cic Gosb: Paddy Jackson 19’