Mae bachwr Cymru, Ken Owens wedi dweud ei fod yn “falch iawn” o gael ennill ei hanner canfed cap dros dîm rygbi Cymru wrth iddyn nhw herio Ffrainc ym Mharis heddiw (2.45pm).
Daeth cap cynta’r Cymro Cymraeg o Gaerfyrddin yn erbyn Namibia yng Nghwpan y Byd yn 2011.
Byddai buddugoliaeth y prynhawn yma’n codi Cymru i bedwerydd yn rhestr detholion y byd, a fyddai’n sicrhau eu bod nhw ymhlith y prif ddetholion ar gyfer Cwpan y Byd yn 2019.
Byddai hefyd yn garreg filltir bersonol i Ken Owens, sy’n mynd am ei chweched buddugoliaeth o’r bron yn erbyn Ffrainc.
‘Buddugoliaeth enfawr’
Dywed Ken Owens y byddai “buddugoliaeth anferth ym Mharis yn coroni’r cyfan”.
“Namibia yng Nghwpan y Byd 2011 oedd fy ngêm gyntaf, sy’n teimlo’n hir iawn yn ôl nawr.
“Dw i’n falch iawn o ennill 50 o gapiau, a gobeithio y cawn ni ganlyniad enfawr allan ym Mharis i goroni’r cyfan.
“Dw i’n eitha hapus. Mae’r chwarae gosod wedi mynd yn dda, ac mae’n braf cael dechrau gemau’n gyson. Dw i’n credu bod hynny wedi fy helpu i.”
Ken Owens v Guillaume Guirado
Capten Ffrainc, Guillaume Guirado fydd gwrthwynebydd Ken Owens yng nghanol y rheng flaen y prynhawn yma, ac fe fydd yn gyfle i barhau â gelyniaeth sydd wedi para ers eu dyddiau yn nhimau ieuenctid eu gwledydd.
“Dw i wedi chwarae dipyn yn ei erbyn e. Roedden ni’r un oedran ieuenctid ac fe chwaraeais i yn ei erbyn e gyntaf pan oedden ni’n 18 neu’n 19 oed.
“Mae e’n fachwr gwych. Dw i wedi chwarae yn ei erbyn ei ddwywaith y tymor hwn i’r Scarlets yn erbyn Toulon, ac mae e’n un o’r bachwyr gorau yn y byd ar hyn o bryd.
“Mae’n mynd i fod yn brawf enfawr. Mae e ar y brig ar hyn o bryd.”
Alun Wyn Jones
Yn y cyfamser, fe fydd y capten Alun Wyn Jones yn creu hanes drwy fod y chwarae cyntaf i ddechrau 100 o gemau dros Gymru.
Ychydig iawn o chwaraewyr sydd wedi dod yn agos at gyrraedd y garreg filltir:
Gareth Thomas (94)
Gethin Jenkins (93)
Martyn Williams (87)
Stephen Jones (86)