Ken Owens - cap rhif 50 yn erbyn Ffrainc
Yn dilyn eu buddugoliaeth 22-9 yn erbyn Iwerddon nos Wener ddiwetha’, fydd yna ddim newidiadau i dîm rygbi Cymru a fydd yn herio Ffrainc ym Mharis ddydd Sadwrn.
Bydd Ken Owens yn ennill ei hanner canfed cap i Gymru. Yn cadw cwmni iddo yn y rheng flaen bydd Rob Evans a Tomas Francis.
Mae’r rheolwr dros dro, Rob Howley wedi dweud bod y tîm wedi “haeddu’r cyfle” i adeiladu ar eu buddugoliaeth yn erbyn y Gwyddelod wrth fynd ati i wynebu eu gêm derfynol yn y Bencampwriaeth.
“Roedd y profiad gwnaethom ddangos, a’r angerdd oedd gennym yn ystod y gêm yn hynod o bwysig, ac mi fydd hi’r un mor bwysig wrth wynebu gêm i ffwrdd yn erbyn Ffrainc,” meddai
“Mae’r chwaraewyr wnaeth chwarae yn Stadiwm y Principality wedi haeddu’r cyfle i chwarae ac rydym yn bles â pherfformiad yr eilyddion felly edrychwn am yr un fath o berfformiad y penwythnos yma.”
Tîm Cymru: Leigh Halfpenny, George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Liam Williams, Dan Biggar, Rhys Webb, Rob Evans,Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones, Sam Warburton, Justin Tipuric, Ross Moriarty
Eilyddion: Scott Baldwin, Nicky Smith, Samson Lee, Luke Charteris, Taulupe Faletau, Gareth Davies, Sam Davies, Jamie Roberts