Mae maswr tîm rygbi Cymru, Dan Biggar wedi gwadu ei fod e wedi anwybyddu cyfarwyddyd gan ei gapten Alun Wyn Jones i fynd at y pyst yn ystod y gêm yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y penwythnos diwethaf.

Mae Leigh Halfpenny, ciciwr Cymru, wedi cyfaddef ei fod e wedi gwneud camgymeriad wrth beidio â mynd am y pyst.

Yr awgrym gan rai yw fod Dan Biggar wedi penderfynu drosto’i hun y byddai’n cicio am y gornel yn hytrach na cheisio am driphwynt tra bod Cymru ar ei hôl hi o 16-13 ar ôl 51 munud.

Methodd Cymru â sgorio yn ystod y cymalau a ddilynodd, ac fe allai’r penderfyniad hwnnw fod wedi bod yn dyngedfennol wrth i’r Alban ennill o 29-13.

Dywedodd Dan Biggar fod Leigh Halfpenny wedi dweud nad oedd yn “ffansïo’r gic”.

“Pe bai hi ar y 22 ac o flaen y pyst, fyddwn i ddim wedi gofyn i Al [Alun Wyn Jones].

“Gan ei bod hi ar yr ystlys, dw i wedi gofyn y cwestiwn am fynd at y gornel. Roedd yn sgwrs gyfeillgar ac nid dyfarnu yn erbyn y capten oedd y bwriad.”

Ychwanegodd fod ganddo fe “barch mawr” at Alun Wyn Jones fel capten.

Datganiad Leigh Halfpenny

Mewn datganiad ar wefan Undeb Rygbi Cymru, dywedodd Leigh Halfpenny ei fod e wedi gwneud “camgymeriad” ac nad oedd e’n “ddigon penderfynol”.

“Roedd Alun Wyn eisiau mynd am driphwynt a dw i wedi gadael i gamgymeriadau yn fy ngêm cyn hynny i ddylanwadu arna i, gan wrthod y gic.”

Hon oedd colled gyntaf Cymru yn erbyn yr Alban ers 2007, a’r tro cyntaf iddyn nhw golli dwy gêm o’r bron ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ers saith mlynedd.

Wrth ymateb, dywedodd Alun Wyn Jones ei fod yn “cefnogi penderfyniad fy nghiciwr o safon fyd-eang”.