Mae Cyfarwyddwr Hyfforddi tîm rygbi’r Eidal, Conor O’Shea wedi galw am gysondeb gan ddyfarnwyr sy’n dyfarnu gemau ei dîm.

Collodd yr Eidal o 33-7 yn erbyn Cymru yn Rhufain y prynhawn yma ar ôl cael eu cosbi 16 o weithiau.

Dim ond pum gwaith y cafodd Cymru eu cosbi yn ystod yr ornest.

Ac ar ôl y gêm, fe alwodd Conor O’Shea am “ddyfarnu ar yr un lefel” ar gyfer y ddau dîm.

Fe ddywedodd ei fod yn teimlo bod dyfarnwyr yn trin ei dîm mewn ffordd arbennig, er na wnaeth e feirniadu JP Doyle yn uniongyrchol.

“Mae rygbi’n dipyn o rollercoaster.”

Egni

Ychwanegodd Conor O’Shea: “Mae egni’n dod mewn nifer o ffyrdd yn ystod gemau, ac mae gyda ni her i newid tipyn o’n meddylfryd a deall bod pethau’n mynd yn eich erbyn chi.

“Fe gollon ni ein disgyblaeth yn yr ail hanner.

“Roedd y ffaith fod yr holl egni’n cael ei roi i Gymru yn golygu ei bod yn anodd i’n tîm ni ganolbwyntio ar y dasg fel y gwnaethon nhw yn yr hanner cyntaf lle’r oedden nhw’n rhagorol ar adegau.

“Rhaid i ni newid y ffordd ry’n ni’n cael ein gweld oherwydd mae’n rhaid i ni sicrhau bod y cochion a’r gleision yn cael eu gweld yn yr un modd.

“Ry’n ni’n gwybod mai Cymru oedd y tîm gorau yn y pen draw, ond ro’n i’n meddwl ein bod ni’n well [na Chymru] yn yr hanner cyntaf.

“Mae’n debyg ein bod ni’n dweud gormod am y dyfarnwr nawr. Mae’n un o’r nifer o bethau mae angen i ni ei ddeall.

“Does gyda fi ddim amheuaeth fod y ciciau cosb yn ein herbyn ni’n gywir, fwy na thebyg, ond dim ond pump a gafodd eu rhoi yn erbyn Cymru.

“Gwyliwch ddwy funud gynta’r gêm ac mae’r llwyfan wedi’i osod.”