Capten newydd Cymru, Alun Wyn Jones (Llun: Undeb Rygbi Cymru)
Mae capten newydd tîm rygbi Cymru, Alun Wyn Jones wedi canmol cymeriad ei dîm ar ôl iddyn nhw guro’r Eidal o 33-7 yn Rhufain ar benwythnos cyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Yr Eidalwyr oedd ar y blaen o 7-3 ar yr hanner, ond fe sgoriodd Cymru 30 o bwyntiau yn yr ail hanner wrth i’r tîm cartref ddechrau blino mewn gêm gorfforol.

Cais gan y mewnwr Edoardo Gori a throsiad gan Carlo Canna a roddodd y saith pwynt i’r Eidal, a chic gosb Leigh Halfpenny oedd yr unig bwyntiau yn yr hanner cyntaf.

Ond fe ddaeth ceisiau i Jonathan Davies, Liam Williams a George North yn ystod yr ugain munud olaf i sicrhau’r fuddugoliaeth, wrth i Leigh Halfpenny orffen gyda 18 o bwyntiau.

‘Prawf’

Dywedodd Alun Wyn Jones wrth ITV: “Roedd yr hanner cyntaf wedi dangos cymaint o brawf oedd [y gêm].

“Fe ddechreuon ni’n araf ond fe ddangoson ni gymeriad. Roedd ein traed yn y drws ar ôl y ffordd mae’r canlyniadau wedi mynd.”

Y tabl

Mae Cymru ar frig y tabl gyda gwahaniaeth pwyntiau o 26, tra bo’r Alban yn ail gyda gwahaniaeth pwyntiau o bump ar ôl iddyn nhw guro Iwerddon o 27-22 brynhawn ddoe.

Lloegr sy’n drydydd ar ôl curo Ffrainc o 19-16.

Er na lwyddodd yr un o’r timau i sicrhau pwyntiau bonws drwy sgorio pedwar cais, fe gafodd Iwerddon a Ffrainc bwynt bonws yr un am ddod o fewn saith pwynt i’r fuddugoliaeth.

Lloegr

Lloegr yw gwrthwynebwyr nesaf Cymru, ac fe fydd rhaid iddyn nhw wella’n sylweddol os ydyn nhw am sicrhau ail fuddugoliaeth ddydd Sadwrn nesaf yng Nghaerdydd.

Ychwanegodd Alun Wyn Jones: “Fe weithion ni ychydig yn galetach, fe gadwon ni’r bêl ac fe ddaethon ni ynghyd yn yr ail hanner.

“Fe wnawn ni barhau i wrando ar y neges.

“Ry’n ni ddiwrnod ar ei hôl hi o’i gymharu â’r timau eraill felly mae gyda ni droed yn y drws.”