Dylai pêl-droedwyr sy’n deifio er mwyn ennill cic o’r smotyn gael eu cosbi, yn ôl y dyfarnwr rygbi o Fynyddcerrig, Nigel Owens.

Daeth ei sylwadau ar ôl i chwaraewr canol cae Hull, Robert Snodgrass gyfaddef iddo deifio er mwyn ennill cic o’r smotyn yn erbyn Crystal Palace brynhawn dydd Sadwrn.

Ar ei dudalen Twitter, dywedodd Nigel Owens: “Dewch â chosb ar ei gyfer ar ôl y gêm. Fel sydd gan rygbi am chwarae brwnt. Gwaharddiad os yn euog.”

Dywedodd y dyfarnwr wrth Radio 5 Live: “Y bobol hynny sy’n dueddol o ddeifio yw’r rhai sy’n sgorio’r goliau ac os ydych chi’n colli’ch prif sgoriwr am gwpwl o gemau, yna does dim pwrpas ei gael e yn y clwb oherwydd dyw e ddim yn chwarae digon o gemau.

“All rygbi ddim bod yn ffroenuchel oherwydd mae tipyn o bethau a allai fod yn well… ond mae wedi cael ei glanhau dipyn.

“Mae tipyn mwy o stopio’n naturiol yn rygbi tra bod pêl-droed yn gêm sy’n symud yn gyflym.

“Mae gan rygbi ei phroblemau ac mae angen iddi wneud yn well ac mi all ddysgu o’r byd pêl-droed – ond mae’n ymdrin â throseddau a rhegi a dyw pêl-droed ddim ar hyn o bryd.”