Fe allai asgellwr 18 oed y Gweilch, Keelan Giles ennill ei gap cyntaf dros Gymru ddydd Sadwrn nesaf.

Fe fydd Cymru’n herio Siapan, ac mae’r prif hyfforddwr dros dro, Rob Howley wedi awgrymu ei fod yn barod i wneud sawl newid i’r tîm a gurodd yr Ariannin o 24-20 yng Nghaerdydd neithiwr.

Mae Giles eisoes wedi sgorio wyth cais i’w ranbarth y tymor hwn, ac fe gafodd ei alw i ymarfer gyda charfan Cymru ar gyfer gemau’r hydref ar ôl i rai o’r gwybodusion ei gymharu â Shane Williams oherwydd ei gyflymdra a’i draed chwim.

Dywedodd Rob Howley: “Os ydych chi’n ddigon da, does dim ots beth yw eich oedran. Ry’n ni wedi dangos hynny gyda chwaraewyr eraill.”