Cystadleuaeth rygbi saith bob ochr ysgolion a cholegau’r Urdd ac Undeb Rygbi Cymru 2017 fydd y gystadleuaeth fwyaf o’i math erioed.

Wrth gyhoeddi manylion y gystadleuaeth fydd yn cael ei chynnal ym Mhencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr fis Ebrill nesaf, daeth cadarnhad y bydd mwy na 3,000 o chwaraewyr yn cymryd rhan mewn dros 300 o oriau o rygbi ar 12 o gaeau, a’r gemau wedi’u dyfarnu gan 50 o ddyfarnwyr.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal rhwng Ebrill 4-6 ar gaeau Coleg Pen-y-bont, Ysgol Uwchradd Pencoed a Chlwb Rygbi Pencoed, ac mae’n agored i unrhyw ysgol uwchradd neu goleg addysg bellach yng Nghymru.

Dywedodd Pennaeth Cyfranogiad mewn Rygbi Undeb Rygbi Cymru, Ryan Jones fod y “fenter yn un gyffrous gyda’r Urdd a fydd yn gweld pobol ifanc Cymru’n cael mwy o gyfleoedd i gymryd rhan yn ein camp”.

“Mae rygbi saith bob ochr yn gêm gyffrous nad oes angen fawr o gyflwyniad arni yng Nghymru yn dilyn llwyddiant rhai o’n chwaraewyr saith bob ochr rhyngwladol gorau yn cynrychioli Prydain yn Rio haf diwethaf.”

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd y gystadleuaeth yn “cynnig profiad positif o rygbi”.

Cystadlaethau eraill

Mae’r Urdd ac Undeb Rygbi Cymru’n cydweithio ar hyn o bryd i drefnu cystadlaethau i blant yn ystod 2017, gan gynnwys cystadleuaeth saith bob ochr i ysgolion cynradd a chystadleuaeth rygbi tag i ferched ysgol gynradd fydd yn dod i ben yn Aberystwyth ym mis Mai.

Bydd y cystadlaethau i ysgolion cynradd yn cynnwys dwy gystadleuaeth – rygbi cyffwrdd i fechgyn, merched a thimau cymysg a chystadleuaeth saith bob ochr i ferched a fydd yn dod i ben gyda rowndiau terfynol yn Llanelli ym mis Mehefin.