Cafodd Gareth Bale ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru heno.
Derbyniodd y wobr yn ystod noson wobrwyo yng ngwesty’r Vale ym Mro Morgannwg.
Roedd Bale yn un o sêr Cymru yn ystod Ewro 2016, gan sgorio tair gôl wrth iddyn nhw gyrraedd y rownd gyn-derfynol cyn colli yn erbyn y pencampwyr Portiwgal.
Mae Bale, sydd wedi sgorio 25 o goliau i Gymru, bellach dair gôl yn brin o record genedlaethol Ian Rush i Gymru.
Roedd dwy wobr i’r chwaraewr canol cae Joe Allen wrth iddo gael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn gan y cefnogwyr a’r chwaraewyr.
Aeth Gwobr y Cyfryngau i’r cefnwr de Chris Gunter, a Gwobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn i Ethan Ampadu.
Ac roedd Gwobr Arbennig hefyd i Chris Coleman am lywio llwyddiant Cymru yn ystod y flwyddyn.
Aeth gwobr Cyfrannwr Clwb y Flwyddyn Uwch Gynghrair Cymru i amddiffynnwr y Seintiau Newydd, Phil Baker am 11 o flynyddoedd o wasanaeth.
Cafodd pedair gwobr eu rhoi i ferched Cymru, gyda Natasha Harding yn cael ei henwi’n Chwaraewr y Flwyddyn.
Bronwen Thomas gafodd ei henwi’n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn, tra bod Sophie Ingle wedi ennill dwy wobr wrth iddi gael ei henwi’n Chwaraewr y Flwyddyn gan y chwaraewyr a’r cefnogwyr.