Rhys Webb (Llun: Undeb Rygbi Cymru)
Ar ôl i Gymru gael ei threchu gan Awstralia ddydd Sadwrn, mae rheolwr Cymru, Rob Howley wedi cynnwys Cory Allen a Tomos Williams yn y garfan i wynebu’r Ariannin ddydd Sadwrn nesaf.

Fe gollodd Cymru o 32-8 wrth i Awstralia eu curo am y deuddegfed tro yn olynol – a hon oedd colled waethaf Cymru ers i Seland Newydd eu curo o 46-10 ddeng mlynedd yn ôl.

Mae’r canolwr Cory Allen yn ymuno a’r garfan ar ôl  i ganolwr Dreigiau Gwent, Tyler Morgan gael ei dynnu allan oherwydd anaf i linyn y gar.

Cafodd y mewnwr Tomos Williams, sydd heb ennill cap eto, ei alw yn dilyn anaf i Rhys Webb yn ystod y gêm yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.

Fe fydd disgwyl i dîm Cymru berfformio’n well yn erbyn yr Ariannin ar ôl iddyn nhw dderbyn beirniadaeth hallt yn dilyn eu perfformiad yn erbyn Awstralia