Fe gostiodd camgymeriadau’n ddrud i dîm rygbi Cymru yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd y prynhawn yma, yn ôl eu capten Gethin Jenkins.

Collodd Cymru o 32-8 wrth i Awstralia eu curo am y deuddegfed tro yn olynol – a hon oedd colled waethaf Cymru ers i Seland Newydd eu curo o 46-10 ddeng mlynedd yn ôl.

Dywedodd Gethin Jenkins: “Fe wnaethon nhw ein cosbi ni am ein camgymeriadu yn yr hanner cyntaf a rhaid canmol Awstralia.

“Ro’n i’n meddwl ein bod ni’n cyfforddus yng nghanol y dwyster ond fe wnaethon ni nifer o gamgymeriadau ffôl – roedden ni ar fai am rai ohonyn nhw ac roedd eu hymosod da nhw’n gyfrifol am rai eraill – ac fe wnaethon ni gael trafferth dod nôl wedyn.

“Fe wnaethon ni ddangos ysbryd i grafu nôl ar y diwedd ac ro’n i’n credu y gallen ni fod wedi cael un cais arall. Ond fe gollon ni’r gêm yn yr hanner cyntaf.”