Cymru 8–32 Awstralia
Llwyr reolodd Awstralia wrth chwalu Cymru yn y stadiwm genedlaethol yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn.
Croesodd yr ymwelwyr am bum cais mewn perfformiad pum seren wrth i Gymru ddechrau cyfres yr Hydref yn hynod siomedig.
Llwyddodd Cymru i aros yn gyfartal yn y deg munud cyntaf er i Awstralia fwynhau’r meddiant i gyd fwy neu lai, ond fe gawson nhw dri phwynt yr un wedi ciciau cosb Bernard Foley a Leigh Halfpenny.
Mater o amser serch hynny oedd hi cyn i’r ymwelwyr sgorio’r cais agoriadol a daeth hwnnw i’r bachwr, Stephen Moore, wedi sgarmes symudol effeithiol.
Treuliodd Biggar ddeng munud oddi ar y cae wedi hynny ar ôl taclo’i ddyn oddi ar y bêl ond llwyddodd ei dîm i gadw llechen lân yn ei absenoldeb.
Ond gyda maswr Cymru yn ôl ar y cae roedd Awstralia wedi sgorio eu hail gais o fewn eiliadau. Cyfunodd Reece Hodge ac Israel Folau yn effeithio i rwygo trwy amddiffyn Cymru, gyda’r canolwr Hodge yn croesi.
Daeth trydydd cais yr ymwelwyr bum munud cyn yr egwyl wrth i’r canolwr, Tevita Kuridrani, dorri trwy amddiffyn y tîm cartref yn rhy hawdd o lawer. Ychwanegodd Foley y trosiad ac roedd Awstralia 17 pwynt ar y blaen ar yr hanner.
Dechreuodd Cymru’r ail hanner fymryn yn well gyda Justin Tipuric a Ross Moriarty yn amlwg yn y chwarae agored.
Awstralia, serch hynny, gafodd gais cynta’r hanner wrth i Foley groesi yn y gornel chwith wedi i’r meddiant gael ei ddwyn ar y llinell hanner.
Ar brynhawn anodd i Gymru fe gafwyd un eiliad i’w chofio wrth i Scott Williams groesi am gais unigol da. Daeth Alex Cuthbert a Hallam Amos yn agos wedi hynny hefyd ond Awstralia a gafodd y gair olaf.
Daeth pumed cais yr ymwlewyr bedair munud o’r diwedd wrth i Dane Haylett-Petty gasglu pêl rydd yn ei hanner ei hun cyn rhedeg yr holl ffordd o dan y pyst.
Buddugoliaeth haeddiannol i Awstralia felly ond prynhawn i’w anghofio i Gymru.
Cymru
Cais: Scott Williams 63’
Cic Gosb: Leigh Halfpenny 7’
Cerdyn Melyn: Dan Biggar 14’
Awstralia
Ceisiau: Stephen Moore 12’, Reece Hodge 26’, Tevita Kuridrani 35’, Bernard Foley 55’, Dane Haylett-Petty 76’
Trosiadau: Bernard Foley 35’, 76’
Cic Gosb: Bernard Foley 4’