Fe fydd tîm rygbi Cymru’n dibynnu’n helaeth ar brofiad Leigh Halfpenny wrth iddyn nhw herio Awstralia yng Nghaerdydd y prynhawn yma.

Dydy Halfpenny ddim wedi chwarae yn y 14 gêm ryngwladol diwethaf ar ôl anafu ei goes yn y gêm baratoadol yn erbyn yr Eidal cyn Cwpan y Byd y llynedd.

Roedd y cefnwr yn allweddol ym muddugoliaeth y Llewod dros Awstralia yn 2013 pan giciodd e 22 o bwyntiau yn y gêm brawf olaf, sy’n record i’r tîm, wrth i’r Llewod ennill y gyfres o 2-1.

Hon oedd buddugoliaeth gynta’r Llewod yn Awstralia ers 16 o flynyddoedd.

O safbwynt Cymru, maen nhw wedi cael naw buddugoliaeth ac wedi colli naw gwaith yn erbyn Awstralia ac ar gyfartaledd, mae Halfpenny wedi sgorio 10 pwynt y gêm yng nghrys coch Cymry yn erbyn y Walabi.

Mae Cymru wedi colli saith o’u 11 gêm diwethaf yn erbyn Awstralia o chwe phwynt neu lai, ac felly fe allai esgid Halfpenny fod yn dyngedfennol i’r Cymry y prynhawn ma.

Ar drothwy’r gêm, dywedodd Halfpenny: “Dw i ar ben fy nigon o gael dod nôl i chwarae dros Gymru ar ôl cyfnod mor hir i ffwrdd.

“Ro’n i’n teimlo fe pe bawn i allan am amser hir, fe gymerodd oesoedd [i wella].

“Fe wnes i weld ei eisiau cryn dipyn ac alla i ddim aros am y gêm. Fe wnes i weld eisiau’r teimlad o dynnu’r crys coch dros fy mhen a rhedeg allan yn Stadiwm Principality – does dim teimlad arall yn debyg iddo.”

Dywedodd fod meddygon a hyfforddwyr Cymru wedi bod yn allweddol yn y broses o wella, a’i fod e wedi derbyn cyngor yn gyson wrth iddo baratoi i ddychwelyd i’r cae.

Mae Halfpenny yn dychwelyd yn lle Liam Williams, sydd wedi anafu, ac mae Sam Warburton, Taulupe Faletau ac Alun Wyn Jones hefyd yn colli’r gêm y prynhawn yma.

Mae Warburton a Faletau wedi’u hanafu, tra bod tad Alun Wyn Jones wedi marw’r wythnos hon.

Yn ôl hyfforddwr Awstralia, Michael Cheika, fe allai’r sgôr fod yn agos.

“Maen nhw’n gemau agos llawn diddanwch, er gobeithio na fydd yn agos ddydd Sadwrn, ond mae gen i deimlad y bydd hi.

“Yr hyn sy’n bwysig ar y diwrnod yw fod y ddau dîm yn herio’i gilydd ac yn chwarae eu rygbi orau, a’r tîm gorau fydd yn ennill.

“Ro’n i’n credu bod Cymru wedi chwarae’n dda yn Seland Newydd, ac roedd Liam Williams yn ardderchog wrth ymosod ac roedden nhw’n agos ati yn y gemau hynny.”