Gethin Jenkins fydd yn arwain tîm profiadol Cymru heddiw wrth iddyn nhw herio Awstralia yng Nghaerdydd.
Bydd Jenkins, fel y Cymro â’r nifer mwya’ erioed o gapiau dros ei wlad, yn gobeithio cael y gorau ar y Walabis ar ddechrau cyfres ryngwladol yr Hydref.
Wrth ochr Jenkins yn y rheng flaen fydd pâr o Scarlets, Ken Owens a Samson Lee.
Bradley Davies a Luke Charteris fydd yn yr ail reng.
Ross Moriarty fydd yn gwisgo crys rhif 8, ochr yn ochr â dau o’r Gweilch, y blaenasgellwyr Dan Lydiate a Justin Tipuric yn y rheng ôl.
Bydd y Gweilch Rhys Webb a Dan Biggar hefyd yn parhau â’u partneriaeth fel haneri ar y maes rhyngwladol.
Mae un newid hwyr i’r tîm wrth i Scott Williams gael ei alw i’r canol yn lle Jonathan Davies, sydd wedi anafu llinyn y gâr.
Bydd Williams yn chwarae ochr yn ochr â Jamie Roberts yn y canol.
Leigh Halfpenny, George North ac Alex Cuthbert sydd yn y llinell ôl.
Ar y fainc, fe fydd Scott Baldwin, Nicky Smith a Tomas Francis fel chwaraewyr y rheng flaen, Cory Hill a James King fel eilyddion i’r blaenwyr, a Gareth Davies, Sam Davies a Hallam Amos yn olwyr.
Fydd Alun Wyn Jones ddim yn chwarae ddydd Sadwrn, yn dilyn marwolaeth ei dad, Tim Jones.
Ystadegau
– Mae Cymru ac Awstralia wedi cyfarfod ar 39 achlysur. Mae Awstralia wedi ennill 28 gêm, a Chymru wedi ennill 10 gêm, ac un gêm yn gyfartal.
– Buddugoliaeth fwyaf Awstralia yn erbyn Cymru oedd 63-6 yn Brisbane 25 o flynyddoedd yn ôl, tra mai perfformiad gorau Cymru oedd ennill o 28-3 yn 1975.
– Y gêm ddiwethaf i Cymru ei hennill oedd honno wyth mlynedd yn ôl yng Nghaerdydd pan drechwyd y Wallabies o 21-18.
-Bydd y cefnwr Leigh Halfpenny yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf ers 14 mis ar ôl dioddef anaf i’w ben-glin mewn gêm baratoadol ar gyfer Cwpan y Byd 2015.
Tîm Cymru: Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North, Dan Biggar, Rhys Webb; Gethin Jenkins (capten), Ken Owens, Samson Lee, Bradley Davies, Luke Charteris, Dan Lydiate, Justin Tipuric, Ross Moriarty. Eilyddion: Scott Baldwin, Nicky Smith, Tomas Francis, Cory Hill, James King, Gareth Davies, Sam Davies, Hallam Amos.