Gleision 23–19 Glasgow

Mae dechrau gwych y Gleision i’r tymor yn y Guinness Pro12 y parhau yn dilyn buddugoliaeth dros Glasgow ar Barc yr Arfau nos Wener.

Roedd ceisiau hanner cyntaf Alex Cuthbert a Ray Lee-Lo ynghyd â chicio cywir Gareth Anscombe yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth bwysig i’r Cymry.

Roedd Asncombe wedi cicio ei dîm chwe phwynt ar y blaen cyn i Cuthbert groesi am gais cyntaf y gêm, yn taro’r lein ar ongl dda i sgorio o dan y pyst.

Ymatebodd Glasgow o fewn dim gyda chais i Stuart Hogg, y gwibiwr yn croesi ar yr asgell chwith.

Roedd yr Albanwyr ar y blaen yn fuan wedyn diolch i Peter Horne, y canolwr yn torri trwy dacl Ellis Jenkins a Tau Filise cyn croesi’r gwyngalch.

Y Gleision a gafodd y gair olaf cyn yr egwyl serch hynny diolch i Lee-Lo. Y canolwr a oedd un o chwaraewyr amlycaf y gêm ac roedd yn llwyr haeddu ei gais yn dilyn gwaith da Josh Navidi.

Rhoddodd trosiad Anscombe y tîm cartref chwe phwynt ar y blaen ond roedd Glasgow yn ôl o fewn un yn gynnar yn yr ail hanner diolch i gais Ali Price.

Daliodd y Gleision eu gafael serch hynny gan ymestyn eu mantais i bedwar pwynt gyda chic gosb hwyr Steve Shingler, 23-19 y sgôr tefynol a buddugoliaeth dda i’r Gleiison.

.

Gleision

Ceisiau: Alex Cuthbert 23’, Ray Lee-Lo 40’

Trosiadau: Gareth Anscombe 34’, 40’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 2’, 13’, Steve Shingler 77’

.

Glasgow

Ceisiau: Stuart Hogg 26’, Peter Horne 32’, Ali Price 48’

Trosiadau: Rory Clegg 27, 33’