Mae disgwyl i glo Cymru Bradley Davies ddechrau ei gêm gyntaf i’r Gweilch heddiw wrth iddyn nhw deithio i Connacht yn y PRO12 nos Sadwrn (7.35pm).

Dychwelodd Davies i Gymru o’r Picwns cyn dechrau’r tymor, ac mae’n un o’r tri newid yn y tîm, gyda’r mewnwr Rhys Webb a’r canolwr Ben John yn dychwelyd i’r pymtheg, gyda Webb wedi’i enwi’n gapten.

Daw John i mewn yn lle Ashley Beck sydd wedi anafu ei glin.

Mae hyfforddwr Connacht, cyn-wythwr Samoa Pat Lam wedi cyhoeddi pedwar newid i’r tîm.

Mae’r cefnwr Tiernan O’Halloran a’r mewnwr Kieran Marmion wedi’u henwi ymhlith yr olwyr, a’r prop Ronan Loughney a’r blaenasgellwr James Connolly ymhlith y blaenwyr.

Mae’r Gweilch wedi ennill wyth allan o 13 ymweliad â Galway yn eu hanes.

Connacht: Tiernan O’Halloran; Niyi Adeolokun, Eoin Griffin, Bundee Aki, Matt Healy; Jack Carty, Kieran Marmion; Ronan Loughney, Tom McCartney, Finlay Bealham; Ultan Dillane, Danny Qualter; Eoin McKeon, James Connolly, John Muldoon (capten).

Eilyddion: Dave Heffernan, Dominic Robertson-McCoy, JP Cooney, Lewis Stevenson, Rory Moloney, Caolin Blade, Shane O’Leary, Danie Poolman.

Y Gweilch: Dan Evans; Jeff Hassler, Ben John, Josh Matavesi, Eli Walker; Sam Davies, Rhys Webb (capten); Nicky Smith, Sam Parry, Dmitri Arhip, Bradley Davies, Rory Thornton, Olly Cracknell, Justin Tipuric, Tyler Ardron.

Eilyddion: Scott Baldwin, Paul James, Ma’afu Fia, Lloyd Ashley, James King, Dan Baker, Tom Habberfield, Dafydd Howells.

Dyfarnwr: Ben Whitehouse

Dyfarnwyr cynorthwyol: Claudio Blessano, Leo Colgan

Comisiynydd cosbi: Tim Lowry

Dyfarnwr fideo: Alan Falzone