Mae chwaraewr rygbi 13 o Gymru wedi cael gwaharddiad am wyth mlynedd ar ôl cael prawf positif am gyffuriau am yr eildro o fewn dwy flynedd.

Roedd Rhys Pugsley, 21 oed o Gasnewydd, yn dod at ddiwedd ei waharddiad am ddwy flynedd ar ôl cael ei ddal yn cymryd cyffuriau tra ar lyfrau Wigan, ym mis Ebrill 2014.

Cafodd brawf positif arall ym mis Chwefror eleni am y steroid anabolig nandrolone. Mae’n golygu na fydd yn cael cymryd rhan mewn chwaraeon o unrhyw fath tan fis Mawrth 2024.

‘Dinistrio gyrfa addawol’

Dywedodd prif weithredwr  corff gwrthgyffuriau DU (UKAD) Nicole Sapstead bod Rhys Pugsley wedi “dinistrio gyrfa addawol” o ganlyniad i’r ail brawf positif.

Ychwanegodd eu bod yn ystyried y mater yn “ddifrifol iawn” gan ychwanegu “mae ein neges yn glir – nid oes lle mewn chwaraeon i’r rhai hynny sy’n cymryd cyffuriau.

“Mae UKAD yn parhau’n bryderus iawn ynglŷn â nifer y dynion ifanc sy’n troi at steroidau er mwyn gwella perfformiad neu am resymau cosmetig.

“Mae’r duedd yma’n parhau’n fater difrifol ac rydym yn galw ar ein partneriaid yn y sectorau chwaraeon, iechyd ac addysg i’n cefnogi ni wrth geisio mynd i’r afael a’r mater.”