Mae Sam Cross sy’n chwarae i Gasnewydd a James Davies sy’n chwarae i Gaerfyrddin wedi cael eu henwi yng ngharfan Rygbi Saith Bob Ochr Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd yn Rio fis nesaf.

Mae James, 25, yn frawd i ganolwr Cymru Jonathan Davies ac mae Sam Cross, 23, wedi serennu i dîm Saith Bob Ochr Cymru yn ddiweddar.

Mae Jasmine Joyce, 20, o Hwlffordd a Megan Jones, 19, o Gaerdydd hefyd wedi eu henwi yng ngharfan tîm merched Rygbi Saith Bob Ochr Prydain.

Hwn fydd y tro cyntaf mewn 108 mlynedd i Brydain gael tîm rygbi ar lefel Olympaidd a dyma’r tro cyntaf i rygbi saith bob ochr ymddangos yn y gystadleuaeth.

Bydd y gemau yn digwydd dros chwe diwrnod gyda’r menywod yn cystadlu gyntaf rhwng 6 ac 8 Awst.

Bydd cystadleuaeth y dynion yn dilyn rhwng 9 ac 11 Awst.

Mae’r Gemau Olympaidd yn Rio yn agor ar 5 Awst.