Jazz Richards (Llun: Benjamin Blackler/cc2.0)
Mae amddiffynnwr Cymru Jazz Richards wedi arwyddo i Gaerdydd o Fulham, gyda Scott Malone yn symud i’r cyfeiriad arall.

Bydd cyn-amddiffynnwr Abertawe, sy’n 25 mlwydd oed, yn dychwelyd i Gymru ar ôl gwneud 22 ymddangosiad i Fulham y tymor diwethaf.

Er iddo greu argraff ar gyfnod menthyg gyda Fulham dau dymor yn ôl, mae o wedi methu ennill ei le yn y tîm cyntaf ers hynny.

Fel rhan o’r cytundeb bydd Scott Malone, 25, yn dychwelyd i Lundain, ar ôl iddo gael cyfnod yn Millwall cyn ymuno Caerdydd ym mis Ionawr y llynedd.