Ni fydd asgellwr tîm rygbi saith bob ochr Cymru, Luke Morgan ar gael i gynrychioli Prydain yn y Gemau Olympaidd.

Roedd Morgan, o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi anafu ei ben-glin yr wythnos diwethaf.

Roedd yn aelod o’r garfan wreiddiol o 25 o chwaraewyr sydd wedi bod yn ymarfer ar gyfer y Gemau yn Rio de Janeiro.

Mae disgwyl i’r garfan derfynol gael ei chyhoeddi ddydd Mawrth.