Mae nifer o chwaraewyr ifainc Clwb Pêl-droed Abertawe wedi creu argraff ar y chwaraewr canol cae Leon Britton ar eu taith i’r Unol Daleithiau.
Mae’r daith yn dod i ben nos Sadwrn gyda gêm yn erbyn y Richmond Kickers.
Fe fu’r Elyrch heb rai o’u sêr oherwydd Ewro 2016, ond fe fu’n gyfle i rai o’r to iau serennu yn eu lle.
Ymhlith y rhai sydd wedi ceisio profi eu gwerth i’r rheolwr Francesco Guidolin mae’r golwr Josh Vickers, yr amddiffynnwr Connor Roberts, yr ymosodwr Ollie McBurnie, yr amddiffynnwr Joe Rodon a’r asgellwr Daniel James.
Dywedodd Leon Britton wrth wefan y clwb: “Mae yna fechgyn ifainc yma ac mae’n dda iddyn nhw gael y cyfle i ddangos i’r rheolwr pwy ydyn nhw, oherwydd mae’n bosib na fyddai wedi gwybod llawer amdanyn nhw.
“Fe all eu gweld nhw’n agos ac mae ganddyn nhw gyfle yn y gemau hyn i greu argraff go iawn.
“Rhaid iddyn nhw drio gwneud digon i sicrhau y byddan nhw yn y brif garfan ac yn hyfforddi gyda’r bechgyn hŷn pan ddaw gweddill y bechgyn yn ôl, oherwydd maen nhw i gyd yn chwaraewyr addawol.
“Yn ystod fy nghyfnod i gyda’r clwb, dydyn ni ddim wedi cael llawer yn torri drwodd. Ry’n ni wedi cael Joe Allen a Ben Davies, ac wedyn mae gyda chi chwaraewyr fel Jazz Richards a Shaun MacDonald.
“Byddai’n braf gweld un neu ddau o chwaraewyr eraill yn dod drwodd i’r tîm cyntaf.”