Warren Gatland
Bydd tîm rygbi Cymru yn wynebu Seland Newydd am y trydydd a’r tro olaf ar eu taith haf fory yn Dunedin yn ne Seland Newydd.

Mae Warren Gatland a’i dîm yn credu y gallan nhw ddysgu o’u camgymeriadau yn y ddwy gêm brawf blaenorol yn erbyn y pencampwyr.

Fe wnaeth Cymru ildio tri chais a 21 o bwyntiau yn y chwarter awr olaf yn Auckland a phedwar cais a 26 o bwyntiau yn Wellington.

Dywedodd Warren Gatland ei fod yn awyddus i orffen y daith gyda buddugoliaeth.

Ond mae hynny’n annhebygol – mae Seland Newydd wedi curo Cymru 28 o weithiau yn olynol dros y 63 o flynyddoedd diwethaf.

“Mae’n rhaid i ni aros yn y gêm,” meddai Warren Gatland. “Yn y ddwy gêm [ddiwethaf] rydym yn blino am bump neu 10 munud ac mae hynny wedi bod yn gostus iawn i ni.

“Mae’r agwedd wrth hyfforddi wedi bod yn wych ac mae’r (tîm) wedi cael eu gwynt atynt ar gyfer un ymosodiad olaf ar y Crysau Duon yn dilyn tymor hir.

“Rydym wedi chwarae rygbi da yn y ddwy gêm gyntaf ac rydym am orffen y daith ddydd Sadwrn gyda pherfformiad 80 munud y gallwn fod yn falch ohono.”

Mae Cymru wedi gwneud dau newid yn y rheng flaen ar gyfer y drydedd gêm gyda Rob Evans a Tomas Francis dod i’r tîm.