Fe fydd y bowliwr cyflym o Dde Affrica, Dale Steyn yn ymddangos yng nghrys Morgannwg am y tro olaf nos Wener wrth i Swydd Surrey ymweld â’r Swalec SSE yng Nghaerdydd.

Bydd Steyn yn gadael Cymru ar ôl heno i deithio i’r Caribî lle bydd yn chwarae i Jamaica yng nghystadleuaeth ugain pelawd y CPL.

Mae gan Steyn naw wiced ar ôl chwarae pedair gêm.

Ar drothwy’r ornest, mae cydwladwr Steyn a chapten Morgannwg, Jacques Rudolph wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at y gêm.

Ar hyn o bryd, mae Morgannwg ar frig y tabl, tra bod Swydd Surrey yn ail, ac fe fyddai buddugoliaeth i’r Cymry’n gam mawr tuag at rownd yr wyth olaf.

Dywedodd Rudolph: “Dwi’n credu bod y bois yn gyffrous iawn. Mae gyda ni fomentwm da mewn criced â’r bêl wen a gobeithio y gall hynny barhau.

“Mae’r criw yn hamddenol iawn ar hyn o bryd pan ydyn ni’n chwarae criced a dw i’n credu bod hynny wedi bod yn amlwg ym mherfformiadau’r tîm.”

Mae disgwyl i un arall o griw Morgannwg o Dde Affrica, y batiwr Colin Ingram ddychwelyd i’r tîm ar ôl cael cyfle i orffwys yn ystod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaint.

Yng ngharfan yr ymwelwyr mae Dwayne Bravo, Kumar Sangakkara a Ravi Rampaul, ond mae Jason Roy allan o’r garfan oherwydd ei ddyletswyddau gyda thîm Lloegr.

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), D Lloyd, C Ingram, A Donald, C Cooke, G Wagg, C Meschede, D Steyn, T van der Gugten, D Cosker, M Hogan, M Wallace, A Salter

Carfan Swydd Surrey: G Batty (capten), Z Ansari, D Bravo, M Burke, R Burns, S Curran, T Curran, S Davies, B Foakes, S Meaker, R Rampaul, K Sangakkara, G Wilson