Cory Allen (Llun Undeb Rygbi Cymru)
Mae pum Cymro, gan gynnwys y sêr rhanbarthol Cory Allen a James Davies, wedi cael eu henwi yng ngharfan ymarfer tîm rygbi saith bob ochr Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd.

Fe fydd y gamp yn cael ei chwarae yn y Gemau am y tro cyntaf erioed eleni pan fydd y cystadlu’n dechrau yn Rio de Janeiro ym Mrasil ym mis Awst.

Y Cymry eraill sydd wedi cael eu henwi yn y garfan o 24 yw Luke Morgan, Luke Treharne a Sam Cross, pob un ohonynt yn arbenigo yn y gêm saith bob ochr.

Fe fydd y garfan yn ymarfer gyda’i gilydd dros yr wythnosau nesaf cyn cael ei chwtogi i 12 chwaraewr ar gyfer y gystadleuaeth.

Hepgor pymtheg bob ochr

Cafodd Cory Allen a James Davies eu gadael allan o garfan pymtheg bob ochr Cymru fydd yn teithio i Seland Newydd fis nesaf gan brif hyfforddwr y tîm Warren Gatland.

Mae gan ganolwr y Gleision, Allen, bedwar cap dros Gymru, tra bod blaenasgellwr y Scarlets, Davies, eto i ennill ei gap cyntaf.

Ond mae gan y ddau brofiad o chwarae i dîm saith bob ochr Cymru, ac fe fydd canolwr yr Alban Mark Bennett yn un arall fydd yn ymuno â’r garfan saith bob ochr yn hytrach na chwarae dros brif dîm rygbi ei wlad.

Er bod y chwaraewyr yn arfer cynrychioli’u gwledydd unigol ar y cae rygbi, mae’r ffaith mai twrnament Olympaidd yw hon yn golygu bod yn rhaid cystadlu fel un tîm Prydeinig.