Mae 55 yn rhagor o chwaraewyr rygbi amatur wedi ymuno â’r frwydr gyfreithiol yn sgil achosion o gyfergyd sydd wedi arwain at salwch difrifol.
Yn ôl y rhai sy’n dwyn achos, sy’n cynnwys cyn-gapten Cymru Ryan Jones, mae’r cyrff llywodraethu wedi methu â chymryd camau rhesymol i’w diogelu nhw.
Mae’r cwmni cyfreithiol Rylands Garth yn cynrychioli’r chwaraewyr wrth iddyn nhw ddwyn achos yn erbyn World Rugby, yr RFU yn Lloegr ac Undeb Rygbi Cymru.
Bellach, mae 250 o chwaraewyr ynghlwm wrth yr helynt.
Yn ôl Rylands Garth, eu bwriad yw ceisio sicrhau bod yr awdurdodau’n derbyn y cysylltiad rhwng chwarae rygbi ac effeithiau cyfergyd ac ergydion parhaus i’r pen, ac yn cymryd camau i ddiogelu chwaraewyr.
Maen nhw’n dweud bod rhai o’u cleientiaid wedi cael anafiadau nad oes modd eu gwyrdroi, gan gynnwys dementia, CTE, syndrom ôl-gyfergyd, epilepsi, cyflwr Parkinson a chlefyd niwronau motor.
Mae’r cwmni wedi croesawu cyhoeddiad World Rugby eu bod nhw’n ystyried gostwng yr uchder cyfreithlon ar gyfer taclo yn y gêm amatur, er bod yr RFU yn Lloegr wedi cael eu beirniadu am geisio cymryd yr un cam yn y gêm broffesiynol yn Lloegr am nad oedden nhw wedi cynnal ymgynghoriad ar y mater.