Gweilch 9–22 Leinster

Collodd y Gweilch am y tro cyntaf mewn saith gêm yn y Guinness Pro12 wrth i Leinster ymweld â’r Liberty nos Wener.

Wedi dechrau siomedig i’r tymor roedd y Gweilch wedi ennill chwe gêm gynghrair yn olynol, ond sgoriodd y Gwyddelod dri chais mewn buddugoliaeth gymharol gyfforddus.

Dechreuodd y Gweilch yn dda ac roeddynt ar y blaen wedi chwarter awr diolch i gôl adlam Dan Biggar.

Ymatebodd Leinster yn syth gyda chais i Dave Kearney, Jonathan Sexton yn canfod yr asgellwr gyda chic letraws nodweddiadol.

Ychwanegodd Sexton y trosiad cyn i Biggar gau’r bwlch i un pwynt gyda chic gosb. Yr ymwelwyr a gafodd bwyntiau olaf yr hanner serch hynny wrth i dri phywnt o droed Sexton ymestyn y bwlch i bedwar pwynt ar yr egwyl.

Dilyn patrwm tebyg a wnaeth yr ail hanner, y Gweilch yn dechrau’n addawol ond yn methu a thorri trwy amddiffyn yr ymwelwyr, a’r Gwyddelod yn dod fwyfwy i’r gêm wrth i’r hanner fynd yn ei flaen.

Caeodd cic gosb gan Biggar y bwlch i bwynt ond Leinster a gafodd gais cyntaf yr ail gyfnod, a hynny chwarter awr o’r diwedd pan groesodd yr eilydd, Noel Reid, wedi chwarae gwych gan y canolwr, Ben Te’o.

Sicrhaodd Dave Kearney’r fuddugoliaeth i Leinster bum munud o’r diwedd gyda’i ail gais ef a thrydydd ei dîm, a doedd dim hyd yn oed pwynt bonws i’r Gweilch yn y diwedd.

Mae’r canlyniad yn codi Leinster dros y Scarlets i frig y Pro12, ond mae’r Gweilch ar y llaw arall yn aros yn seithfed.

.

Gweilch

Ciciau Cosb: Dan Biggar 24’, 55’

Gôl Adlam: Dan Biggar 14’

.

Leinster

Ceisiau: Dave Kearney 17’, 76’, Noel Reid 65’

Trosiadau: Jonathan Sexton 18’ 76’

Ciciau Cosb: Jonathan Sexton 27’