Ken Owens
Fe fydd y Scarlets yn gobeithio cadw’u safle ar frig y Pro12 ddydd Sadwrn wrth i’r Gweilch ymweld â Llanelli yn narbi fawr gorllewin Cymru.

Bydd y tîm cartref yn croesawu Ken Owens yn ôl i’w rheng flaen, tra bod Aled Davies wedi cael ei ddewis o flaen Gareth Davies yn safle’r mewnwr.

Mae’r Gweilch wedi enwi nifer o sêr Cymru yn eu tîm gan gynnwys Dan Biggar, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate a Justin Tipuric wrth iddyn nhw chwilio am eu pumed buddugoliaeth o’r tymor.

‘Gweilch yn well na wythfed’

Yn ôl prif hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac mae’r Gweilch yn well na’r wythfed safle yn y gynghrair y maen nhw ynddi ar hyn o bryd, ac mae’n disgwyl iddyn nhw fod yn cystadlu yn y pedwar uchaf erbyn diwedd y tymor.

“Mae tipyn o ffordd i fynd yn y gystadleuaeth yma ac fe fydd timau da yn methu allan ar y gemau ail gyfle,” meddai Pivac.

“Rydyn ni’n barod am frwydr galed ar ddiwedd y tymor ond rydyn ni eisiau rhoi’r cyfle gorau posib i ni fod yno’n gwthio am safle yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.”

‘Ddim yn edrych drws nesaf’

Mynnodd prif hyfforddwr y Gweilch Steve Tandy y byddai gemau eraill ei dîm yn erbyn y Dreigiau a Leinster dros gyfnod y Nadolig cyn bwysiced â’r ornest yn erbyn y Scarlets, dim ots pa un oedd y cefnogwyr yn boeni amdano fwyaf.

“Mae tipyn o sôn wedi bod am geisio bod y tîm rhif un yng Nghymru ond nid dyna sy’n ein hysgogi ni,” meddai Tandy.

“Rydyn ni eisiau ennill pob gêm rydyn ni’n chwarae a chystadlu ar y lefel uchaf bob wythnos yn erbyn gwrthwynebwyr o Gymru, Iwerddon, yr Alban, yr Eidal, Lloegr a Ffrainc. Dydyn ni ddim jyst yn edrych drws nesaf.”

Tîm y Scarlets: Rob Evans, Ken Owens (capt), Jake Ball, Lewis Rawlins, Aaron Shingler, John Barclay, Morgan Allen; Aled Davies, Aled Thomas, DTH van der Merwe, Hadleigh Parkes, Gareth Owen, Steff Evans, Michael Collins.

Eilyddion: Emyr Phillips, Phil John, Rhodri Jones, George Earle, Jack Condy, Gareth Davies, Steve Shingler, Regan King.

Tîm y Gweilch: Paul James, Scott Baldwin, Dmitri Arhip, Lloyd Ashley, Alun Wyn Jones (capt), Dan Lydiate, Justin Tipuric, James King, Tom Habberfield, Dan Biggar, Hanno Dirksen, Josh Matavesi, Ben John, Jeff Hassler, Dan Evans.

Eilyddion: Sam Parry, Nicky Smith, Aaron Jarvis, Rory Thornton, Dan Baker, Martin Roberts, Sam Davies, Eli Walker.