Dim ond un newid sydd wedi cael ei wneud i dîm y Dreigiau wrth iddyn nhw baratoi i herio Pau yng Nghwpan Her Ewrop ddydd Sadwrn.

Fe sicrhaodd Gŵyr Gwent fuddugoliaeth hanesyddol o 22-6 yn erbyn Munster yn y Pro12 yr wythnos diwethaf, ac mae Lyn Jones wedi cadw gyda’r un tîm mwy neu lai.

Mae’r unig newid yn dod yn y rheng ôl, ble mae Ollie Griffiths yn cymryd lle Nic Cudd fydd yn chwarae dros dîm y Dreigiau yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon y penwythnos yma.

Mae’n golygu bod Taulupe Faletau, a gyhoeddodd yr wythnos hon y bydd yn symud i Gaerfaddon ar ddiwedd y tymor, yn cadw’i le fel wythwr yn y tîm.

Herio’r anghyfarwydd

Gyda phob tîm wedi chwarae dwy gêm yn y gystadleuaeth hyd yn hyn mae’r Dreigiau ar frig eu grŵp tra bod Pau ar y gwaelod.

Ond dyw’r Dreigiau erioed wedi wynebu’r tîm o Ffrainc o’r blaen ac fe gyfaddefodd eu hyfforddwr Lyn Jones y byddai’n rhaid iddyn nhw fod yn barod am unrhyw beth.

“Fe fyddan nhw’n gwneud newidiadau a dyw e ddim yn eu gwanhau nhw, ond weithiau dyw timau o Ffrainc ddim y rhai mwyaf trefnus yn y gystadleuaeth yma,” meddai hyfforddwr y Dreigiau.

“Mae’n rhaid i ni geisio manteisio ar hynny ond yr her fydd delio â pha mor gorfforol fyddan nhw.”

Tîm y Dreigiau: Boris Stankovich, Thomas Rhys Thomas (capt), Brok Harris, Matthew Screech, Rynard Landman, Lewis Evans, Ollie Griffiths, Taulupe Faletau; Sarel Pretorius, Dorian Jones, Ashton Hewitt, Adam Warren, Adam Hughes, Tom Prydie, Carl Meyer

Eilyddion: Elliot Dee, Shaun Knight, Lloyd Fairbrother, Cory Hill, Ed Jackson, Luc Jones, Jason Tovey, Ross Wardle