Gweilch 36–3 Zebre
Cafodd y Gweilch fuddugoliaeth gyfforddus wrth i Zebre ymweld â’r Liberty yn y Guinness Pro12 brynhawn Sadwrn.
Dim ond un waith yr oedd y rhanbarth o Gymru wedi ennill y tymor hwn cyn y gêm hon, ond doedd dim amheuaeth am y canlyniad y tro hwn wrth i’r tîm cartref groesi am chwe chais mewn buddugoliaeth dda.
Pum munud yn unig oedd ar y cloc pan groesodd y canolwr, Jonathan Spratt, am y cais agoriadol.
Ychwanegodd Josh Matavesi ac Eli Walker ddau arall cyn yr egwyl i roi’r Gweilch 17-3 ar y blaen ar yr hanner.
Roedd y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn ddiogel wedi chwarter awr o’r ail hanner diolch i gais Justin Tipuric.
Roedd digon o amser am ddau gais arall yn y chwarter olaf. Croesodd Walker am ei ail ef a phumed ei dîm toc wedi’r awr cyn i Sam Parry gwblhau’r sgorio.
Mae’r fuddugoliaeth, eu hail yn unig y tymor hwn, yn codi’r Gweilch i’r nawfed safle yn nhabl y Pro12.
.
Gweilch
Ceisiau: Jonathan Spratt 5’, Josh Matavesi 16’, Eli Walker 24’, 62’, Justin Tipuric 55’, Sam Parry 71’
Trosiadau: Dan Biggar 16’, 63’, Sam Davies 72’
.
Zebre
Cic Gosb: Carlo Canna 30’
Cerdyn Melyn: Michele Visentin 66’