Fe fydd y Scarlets yn chwilio am eu seithfed buddugoliaeth yn olynol yn y Pro12 y tymor hwn wrth iddyn nhw herio Leinster heno yn Stadiwm yr RDS.
Mae’r rhanbarth o Lanelli ar frig y gynghrair ar hyn o bryd ar ôl ennill pob un o’u chwe gêm agoriadol, gan gynnwys buddugoliaeth pwynt bonws dros y Dreigiau yn eu gêm ddiwethaf.
Bydd Gareth Davies yn dechrau dros y rhanbarth am y tro cyntaf y tymor hwn ers dychwelyd o ddyletswydd ryngwladol yng Nghwpan y Byd gyda Chymru.
Mae Gareth Owen, Michael Tagicakibau ac Aaron Shingler hefyd yn dychwelyd o anaf, tra bod Emyr Phillips yn cymryd lle Ken Owens fel bachwr, ond mae Samson Lee, DTH van der Merwe a Rhodri Williams yn parhau i gael eu gorffwys.
Cynnal momentwm
Bydd y Scarlets, sydd pwynt o flaen Connacht yn y Pro12 ar hyn o bryd, yn aros ar frig y tab os ydyn nhw’n llwyddo i ennill oddi cartref yn Nulyn heno.
Ac yn ôl eu hyfforddwr Wayne Pivac mae’r tîm yn awyddus i gadw’r momentwm i fynd cyn iddyn nhw droi eu sylw ar faterion Ewropeaidd yr wythnos nesaf.
“Rydyn ni wedi ennill ein chwe gêm gyntaf ac rydyn ni’n hapus â lle ydyn ni yn nhabl y Pro12. Mae’n ddyddiau cynnar, ond mae llwyddiant yn magu llwyddiant ac mae’r hyder yn cynyddu â phob buddugoliaeth,” meddai Pivac.
“Rydyn ni’n closio fel grŵp. Allwch chi ddim tanbrisio tîm sydd yn gweithio’n dda â’i gilydd, mwynhau cwmni ei gilydd a throi hynny mewn i berfformiadau tîm da.”
Bydd y gic gyntaf rhwng Leinster a’r Scarlets am 7.35yh nos Wener, ac yn cael ei darlledu’n fyw ar BBC Two Wales.
Tîm y Scarlets: Rob Evans, Emyr Phillips, Peter Edwards, Jake Ball, Lewis Rawlins, Aaron Shingler, James Davies, John Barclay (capt); Gareth Davies, Dan Jones, Michael Tagicakibau, Hadleigh Parkes, Gareth Owen, Tom Williams, Aled Thomas
Eilyddion: Ken Owens, Dylan Evans, Will Taylor, Tom Price, Maselino Paulino, Aled Davies, Michael Collins, Harry Robinson
Yr ornest yn fyw ar BBC2 Cymru.