Justin Tipuric
Mae Justin Tipuric wedi cyfaddef bod pob aelod o garfan Cymru yn debygol o fod yn nerfus yr wythnos hon wrth i Warren Gatland ystyried pwy i’w dorri allan o’i garfan.

Fe gollodd Cymru i Iwerddon dydd Sadwrn yn eu gêm baratoadol cyntaf cyn i Gwpan y Byd ddechrau ym mis Medi, gyda sawl un o’r chwaraewyr ar gyrion y garfan yn cael gêm.

Mae disgwyl i Gatland leihau maint y garfan o 46 i “36 neu 38” yr wythnos hon, gyda prif hyfforddwr Cymru yn cyfaddef fod ganddo dal gur pen dros hanner dwsin o safleoedd.

Bydd y garfan yn cael ei chwtogi’n derfynol i 31 aelod erbyn diwedd y mis, a hynny ar ôl i Gymru chwarae dwy gêm baratoadol arall yn erbyn Iwerddon unwaith eto, a’r Eidal.

‘Croesi bysedd’

Roedd Justin Tipuric yn un o’r chwaraewyr yn y tîm gollodd 35-21 i Iwerddon dros y penwythnos, ond roedd y blaenasgellwr yn un o’r prin rai a ddisgleiriodd gan sgorio cais hyfryd tua’r diwedd.

Ac mae’n cyfaddef y bydd y dyddiau nesaf yn rhoi rhai o’r chwaraewr ar bigau’r drain.

“Dw i’n meddwl bod pawb yn nerfus,” meddai Justin Tipuric.

“Rydych chi lan a lawr, a wastad yn croesi bysedd y byddwch chi’n rhan o bethau. Dyna ble mae rygbi’n gallu bod yn anodd, pan dydych chi ddim yn rhan.”

Siom Gatland

Fe ddywedodd Warren Gatland y byddai’r gêm yn erbyn Iwerddon yn gyfle i rai o’r chwaraewyr ar gyrion y garfan wneud argraff, a doedd sawl un ddim yn edrych fel y llwyddon nhw i wneud hynny.

Roedd Cymru’n colli 25-0 ar un pwynt ar ôl ildio tair cais gynnar, gyda’r haneri Mike Phillips a James Hook ymysg y rheiny wnaeth ddim perfformio cystal ag y gallan nhw fod wedi’i wneud.

Ac mae gan y tîm waith i’w wneud eto cyn Cwpan y Byd ble byddan nhw’n herio Awstralia, Lloegr, Fiji ac Uruguay yn eu grŵp, yn ôl y prif hyfforddwr.

“Roedd hon [y gêm yn erbyn Iwerddon] yn gyfle i sawl un o’r chwaraewyr fynd allan a pherfformio, felly fe fydd e’n sicr yn berthnasol [wrth gwtogi’r garfan],” meddai Warren Gatland.

“Y cynllun wastad oedd i roi gêm i bawb – rydych chi eisiau rhoi cyfle i’r chwaraewyr.

“Roeddwn i’n siomedig â’r ffordd wnaethon ni chwarae yn yr hanner cyntaf. Fe sgorion ni cwpl o geisiau neis yn y diwedd, ond allwch chi ddim colli’r bêl cymaint a hynny yn erbyn tîm fel Iwerddon. Fe roddon ni tipyn o bwyntiau hawdd iddyn nhw.”