Doedd dwy wiced Graham Wagg ar y pedwerydd diwrnod yn erbyn Swydd Gaerloyw yn San Helen ddim yn ddigon i atal Morgannwg rhag colli am y trydydd tro o’r bron yn ail adran y Bencampwriaeth.

Tarodd Chris Dent hanner canrif wrth i Swydd Gaerloyw gyrraedd y nod o 108 ychydig cyn diwedd yr ail sesiwn.

Dim ond 8.1 o belawdau oedd yn bosib yn ystod sesiwn y bore oherwydd glaw mân, ond yr ymwelwyr fanteisiodd ar yr amodau yn ystod y prynhawn i gipio’r fuddugoliaeth o saith wiced.

Roedd arwyddion addawol cynnar i fowlwyr Morgannwg wrth i Michael Hogan a Craig Meschede fowlio pedair pelawd ddi-sgôr cyn i’r glaw ddod i mewn o Fae Abertawe i orfodi cinio cynnar am 12.30.

Y naill ochr a’r llall i’r egwyl, bowliodd Hogan saith pelawd o ben Heol y Mwmbwls gan ildio saith rhediad mewn cyfnod oedd yn cynnwys pum pelawd ddi-sgôr.

Roedd amnewid Hogan am Graham Wagg yn ddewis doeth i Forgannwg, wrth iddo gipio wiced Will Tavare oddi ar ei bumed pelen, wrth i’r wicedwr Mark Wallace ei ddal am 12.

Daeth ail wiced i Forgannwg wrth i gyfanswm Swydd Gaerloyw gyrraedd 59. Y batiwr allan oedd Gareth Roderick, wnaeth yrru’n sgwâr i Aneurin Donald.

Hogan dorrodd y bartneriaeth o 25 rhwng Chris Dent a Benny Howell, wrth ddod o amgylch y wiced a’r bêl yn gwyro oddi ar fat Howell i ddwylo Colin Ingram yn y slip.

Ond roedd Dent yn dal wrth y llain ar 65 heb fod allan pan gipiodd yr ymwelwyr y fuddugoliaeth.

Ymateb Morgannwg

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd is-hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft: “O’n i’n credu pan gawson ni 300 yn y batiad cynta’i fod e’n gyfanswm eitha da. Ond yn wir, roedd yn siomedig i ddim cael rhediadau gyda’r bois ar dop yr order, ond roedd yn hyfryd i weld Andrew Salter a Kieran Bull yn gwneud partnership arbennig gyda’r bat. Ond gyda’r bêl yn y batiad cyntaf o’n i’n teimlo’n bod ni’n siomedig a ddim lan i’r safon.”

O ystyried bod gan Forgannwg garfan gymharol fach, byddai gwneud unrhyw newidiadau wrth i’r tymor fynd rhagddo’n anodd, ym marn capten Morgannwg, Jacques Rudolph.

“Dyna natur y bwystfil. Dwi wedi trafod gyda Watty [hyfforddwr ail dîm Morgannwg, Steve Watkin] a dw i wedi dweud er mwyn i’r chwaraewyr hynny chwarae criced dosbarth cyntaf, dw i am iddyn nhw daro’r drws i lawr. Yn anffodus, does neb yn gwneud hynny ar hyn o bryd ac mae carfan fach gyda ni ar ben hynny.

“Roedd hi’n anodd batio ar y diwrnod cyntaf gyda phelenni anodd. Roedd sesiynau yn yr ornest pan gollon ni wicedi’n gyson. Dal i fyny oedden ni am rannau helaeth o’r ornest.

“Wrth drafod gyda William Bragg, dw i wedi dweud wrtho fe fod rhaid iddo fe aros yn gryf yn feddyliol, ceisio defnyddio’r dechneg orau ar bob llain ac os cewch chi belen dda, dyna ni.

“Rhaid i ni drio gwyrdroi’r momentwm. Mae’n bwysig i ni aros yn gryf fel uned wrth symud ymlaen.”