Mae bachwr y Gweilch a Chymru, Scott Baldwin wedi dweud nad yw’n cymryd ei le yng nghrys Cymru’n ganiataol wrth iddo ceisio ennill ei le yn y garfan ar gyfer Cwpan y Byd yn ddiweddarach eleni.
Baldwin, 26, oedd bachwr Cymru ddiwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ac fe fydd un o’r rhai fydd yn teithio i ymarfer yn y Swistir a Qatar ddiwedd y mis.
Dywed Baldwin mai perthynas anodd â chyn-hyfforddwr y Gweilch, Scott Johnson sydd wedi ei ysgogi i sicrhau ei le yn y tîm cenedlaethol.
“Wnes i ddim wir gydweld â Scott Johnson ac nid tan i Steve Tandy ddod i mewn y dywedwyd wrthyf y byddwn yn chwarae.
“Doedd e [Johnson] ddim yn meddwl llawer ohono i fel chwaraewr ond does dim ots gyda fi amdano fe.
“Mae gyda fi ots am yr hyn mae hyfforddwr Cymru a’m rhanbarth yn meddwl amdana i ac yn bennaf oll, yr hyn mae fy nghyd-chwaraewyr yn ei feddwl.
“I fi, gwneud fy ngorau i’m cyd-chwaraewyr a’r hyfforddwyr dw i’n chwarae drostyn nhw sy’n bwysig.”
Bedair blynedd yn ôl, wrth i Gymru gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd, roedd Baldwin mewn tafarn yng Nghaerdydd yn gwylio’r gêm ar sgrîn fawr.
“Ro’n i’n chwarae i Abertawe ar y pryd. Roedd y ddiod yn llifo yn y bar – ond fydda i ddim yn gwneud hynny y tro hyn!
“Byddwn ni’n cael nifer o sesiynau ymarfer mawr ac mae’n erchyll wrth i chi ei wneud e.
“Ond faint o bobol yn y byd sy’n ymarfer ar gyfer Cwpan y Byd ymhen 10 neu 12 wythnos?”
Mae disgwyl i Baldwin gael ei herio am grys y bachwr gan Richard Hibbard a Ken Owens.