Mae Swydd Surrey wedi curo Morgannwg o 19 rhediad yn y T20 Blast yn y Swalec SSE heno.
Gosododd yr ymwelwyr nod o 147 am y fuddugoliaeth, wrth i seren yr ornest, Jason Roy daro 61 i helpu Swydd Surrey i gyrraedd 146-8 ar ddiwedd eu batiad nhw.
Seren y bowlio i Forgannwg oedd Dean Cosker, wrth iddo gipio pedair wiced am 25 – ei ffigurau bowlio gorau erioed mewn gornest ugain pelawd.
Ond wrth ymateb i’r her o geisio 147 o rediadau am y fuddugoliaeth, collodd Morgannwg bum wiced am 39 rhediad yng nghanol y batiad i selio’u tynged.
Prif sgoriwr Morgannwg oedd Craig Meschede (31) ond unwaith y collodd ei wiced, roedd y canlyniad yn dechrau edrych yn anochel.
Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 127 yn y pen draw, a hon oedd ail fuddugoliaeth yr ymwelwyr yn y gystadleuaeth y tymor hwn.
Bellach, mae Morgannwg wedi ennill pedair gornest ond wedi colli pump, ac fe fyddan nhw’n herio Gwlad yr Haf yn fyw ar Sky Sports ddydd Sul.