Mi fydd ras seiclo Pencampwriaeth Prydain yn cael ei chynnal ddydd Sul yn nhref Lincoln, Lloegr gyda’r dynion a’r merched yn cystadlu. Mae disgwyl i dri o Gymry rasio yn ras derfynol y dynion sef Luke Rowe o dîm Sky, y pencampwr treialu amser dan 23 Scott Davies a’r gŵr ifanc o Gaerdydd, Owain Doull o dîm Wiggins.

Mae’r ras, sy’n binacl yr holl bencampwriaeth yn gyfle unigryw i’r enillydd wisgo crys y pencampwyr. Mae’r ras yn cynnwys 45km o reid yng ngogledd Lincoln gan orffen gyda chwrs 13km o hyd yng nghanol y dref, ble fydd pawb yn gorffen.

Davies a Doull yn cael dechrau gwych

Cafwyd newyddion calonogol yn dilyn y ras dreialu amser dan 23 yn gynharach yr wythnos hon, gyda Scott Davies yn ennill gydag amseriad o 47:20:32. Fe ddaeth Owain Doull yn ail gan orffen chwe eiliad tu ôl i Davies gydag amseriad o 47:26:53 o fewn cwrs 33.6km.

Tîm Cryf gan Team Sky

Mi fydd Team Sky yn ffefrynnau cadarn i ennill y ras gyda’r pencampwr presennol  Peter Kennaugh, Ian Stannard a Luke Rowe yn cystadlu dros y Sul. Mae Geraint Thomas wedi tynnu allan o’r ras er mwyn bod yn holliach ar gyfer y Tour de France fis nesaf.

Mae disgwyl i Mark Cavendish, pencampwr 2013 o dîm ProTeam Etixx-Quick Step gystadlu yn y ras hon hefyd.