Bydd Morgannwg yn ffarwelio â’r bowliwr cyflym llaw chwith o Dde Affrica, Wayne Parnell wrth iddyn nhw groesawu Swydd Surrey i’r Swalec SSE ar gyfer yr ornest T20 heno.
Mae Parnell wedi’i gynnwys yn y garfan sy’n anelu i gwblhau’r ‘dwbwl’ dros yr ymwelwyr yn dilyn eu buddugoliaeth ar gae’r Oval ar benwythnos gynta’r gystadleuaeth.
Enill pedair a cholli pedair fu hanes Morgannwg hyd yma’r tymor hwn, ac maen nhw’n awyddus i daro’n ôl wedi iddyn nhw gael crasfa gan Swydd Sussex yr wythnos diwethaf.
Ar ôl heno, bydd Morgannwg yn teithio i Wlad yr Haf ddydd Sul i herio criw eu cyn-gapten a chyn-hyfforddwr Matthew Maynard.
Dywedodd prif hyfforddwr presennol Morgannwg, Toby Radford: “Mae’n benwythnos mawr i ni, yma heno ac yna yn Taunton lle cawson ni fuddugoliaeth dda y llynedd yn erbyn Gwlad yr Haf felly ry’n ni’n gwybod fod y penwythnos hwn yn bwysig iawn i ni yn nhermau lle’r y’n ni’n mynd yn y gystadleuaeth hon, fe fydd yn dyngedfennol.”
Ar drothwy ymddangosiad olaf Parnell yng nghrys Morgannwg, dywedodd capten y sir a’i gydwladwr Jacques Rudolph: “Mae Wayne wedi bod yn wych o gwmpas yr ystafell newid drwy rannu ei wybodaeth gyda’r bois ac ar ben hynny, mae e wedi bowlio’n dda iawn i ni.
“Dw i’n gwybod nad oedd y gêm ddiwethaf wedi mynd yn dda i ni, ond gobeithio y gallwn ni sicrhau dwy fuddugoliaeth y penwythnos yma, sy’n her fawr i ni, ac fe all e hedfan i Bangladesh ddydd Llun gan wybod ei fod e wedi ein helpu ni i groesi’r llinell derfyn.”
Carfan 12 dyn Morgannwg: J Rudolph (capten), C Meschede, B Wright, C Ingram, C Cooke, M Wallace, D Lloyd, G Wagg, W Parnell, A Salter, D Cosker, M Hogan
Carfan 13 dyn Swydd Surrey: G Batty (capten), J Burke, S Curran, M Dunn, D Elgar, B Foakes, A Kapil, T Linley, Azhar Mahmood, J Roy, V Solanki, F Van den Bergh, G Wilson