Taulupe Faletau - ar ei ffordd i Loegr?
Dim ond lle i ddau chwaraewr o’r tu allan i Gymru fydd yn y tîm cenedlaethol ar ôl Cwpan y Byd, yn ôl y prif hyfforddwr.
Wrth siarad â’r wasg cyn i’r tîm baratoi i deithio i’r Swistir i ymarfer, fe ddywedodd Warren Gatland y bydd polisi newydd yn cael ei sefydlu ar ôl y bencampwriaeth yn yr hydref fydd yn golygu mai dim ond dau ‘wildcard’ fydd yn cael eu cynnwys.
Mae’n gadarnhad y bydd ‘Deddf Gatland’ i ffafrio chwaraewyr o rhanbarthau Cymru ar yn cael ei ddefnyddio’n llawer mwy llym yn y dyfodol.
Ond mae disgwyl y bydd nifer o chwaraewyr carfan Cymru yn chwarae i glybiau yn Lloegr a Ffrainc y tymor nesaf gan gynnwys Leigh Halfpenny, Jon Davies, Jamie Roberts, Rhys Priestland, James Hook, Paul James a Richard Hibbard.
Faletau yn symud?
Daw’r sylwadau diweddar yn sgil y trafod dros ddyfodol blaenasgellwr Cymru a’r Dreigiau Taulupe Faletau, sydd wedi denu sylw Bath a’r Gleision.
Awgrymodd Warren Gatland y dylai Faletau, sydd wedi gwrthod cytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru, aros gydag un o ranbarthau Cymru os yw’n gallu.
Ond dywedodd yr hyfforddwr hefyd y byddai lle Faletau yng ngharfan Cymru yn cael ei “warchod”.
“Mae potensial yno i Toby symud, ond fe fyddai hynny lan iddo fe,” meddai Warren Gatland.
“Fyddai hynny ddim yn amharu arno, ond byddai’n well gyda ni weld ein chwaraewyr ni’n aros yng Nghymru. Dw i’n gredwr mawr mewn beth sydd orau i’r chwaraewr, mae hynny’n ffactor bwysig i fi.”
Eithriadau
Awgrymodd Gatland fodd bynnag y byddai’n fodlon bod yn hyblyg â’r rheolau hynny mewn amgylchiadau arbennig neu os oedd y garfan yn dioddef o nifer o anafiadau.
“Os oes mwy nag un chwaraewr y tu allan i’r wildcards mae risg na fyddan nhw’n cael eu dewis,” meddai Gatland.
“Ond dywedwch fod tri neu bedwar chwaraewr wedi anafu yna fydden i’n mynd at y rhanbarthau a dweud fod yn rhaid i mi fynd a dewis mwy na dau chwaraewr o du allan i Gymru.”