Ar Orffennaf 8, bydd sylw’r byd wedi’i hoelio ar y Swalec SSE pan fydd Caerdydd yn croesawu Lloegr ac Awstralia ar gyfer y prawf cyntaf yng Nghyfres y Lludw.

Daeth y gyfres i Gymru am y tro cyntaf yn 2009 – y prawf cyntaf bryd hynny hefyd, fel mae’n digwydd – ac mi orffennodd hi’n gyfartal rhwng gelynion penna’r byd criced ar ddiwrnod olaf cyffrous.

Monty Panesar a James Anderson oedd wedi serennu i Loegr yn 2009 wrth iddyn nhw fatio’u ffordd allan o drafferth i achub yr ornest.

Un o’r rheiny fu’n ceisio atal y llif o rediadau oedd troellwr Awstralia, Nathan Hauritz, a gipiodd chwe wiced dros y ddau fatiad, ac mae’n bosib y gallai un o’r troellwyr – Nathan Lyon i Awstralia neu Moeen Ali i Loegr – fod yn allweddol i lwyddiant y naill wlad neu’r llall ar y diwrnod olaf.

Un sy’n hen gyfarwydd â chrefft y troellwr yw is-hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft, fu’n sgwrsio â gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers.

Gwrandewch ar y cyfweliad yma.