Mae Harlequins wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arwyddo canolwr Cymru a’r Llewod Jamie Roberts.
Fe gadarnhaodd y clwb o Uwch Gynghrair Aviva Lloegr bore yma fod Roberts yn mynd i ymuno â’r tîm o Racing Metro ar ddiwedd y tymor.
Bydd y canolwr yn gadael Ffrainc ar ôl dau dymor o chwarae yno, ac fe fydd yn ymuno â chyn-chwaraewr Cymru Adam Jones sydd hefyd wedi cytuno i symud i Harlequins y tymor nesaf.
Astudio yng Nghaergrawnt
Fe dreuliodd Jamie Roberts chwe blynedd gyda Gleision Caerdydd cyn symud i Baris, ac mae wedi chwarae 69 o weithiau dros Gymru gan ennill dwy Gamp Lawn.
Tra yng Nghaerdydd fe raddiodd fel meddyg, ac fe gadarnhaodd heddiw y bydd nawr yn astudio ar gyfer gradd Meistr MPhil mewn Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Caergrawnt.
“Dw i wrth fy modd yn arwyddo i Harlequins,” meddai Jamie Roberts heddiw.
“Ar ôl chwarae yng Nghaerdydd a Pharis, mae symud i Lundain yn gyfle i mi brofi a datblygu fy ngyrfa yn bellach mewn cynghrair wahanol.
“Mae fy mrwdfrydedd i gystadlu ac ennill ar lefel clwb a rhyngwladol mor gryf ac erioed ac fe fydd steil chwarae’r Harlequins yn herio fy sgiliau i ac yn fy annog i wella fel chwaraewr.”
Fydd Jamie Roberts ddim yn chwarae i Harlequins nes yr hydref, ar ôl iddo gystadlu gyda Chymru yng Nghwpan y Byd.
Ond dyw hi ddim yn glir eto beth fydd dyfodol rhyngwladol y canolwr ar ôl hynny, gyda rheol newydd Undeb Rygbi Cymru yn golygu bod chwaraewyr sydd ddim yn chwarae i ranbarthau Cymru dim ond yn cael eu hystyried ar gyfer y tîm cenedlaethol mewn achosion arbennig.