Gareth Bale (llun: Adam Davy/PA)
Doedd hi ddim yn benwythnos da i obeithion diwedd tymor llawer o’r Cymry, wrth i’r uwch gynghreiriau dynnu tuag at eu terfyn.
Er i Real Madrid ennill 4-1 yn erbyn Espanyol dros y penwythnos, roedd buddugoliaeth Barcelona o 1-0 dros Atletico Madrid yn golygu mai’r Catalaniaid sydd wedi ennill La Liga Sbaen eleni.
Chwaraeodd Gareth Bale gêm lawn i Madrid ond heb sgorio na chreu gôl, ac mae’n golygu nad yw Los Blancos wedi ennill yr un tlws eleni.
Yn Uwch Gynghrair Lloegr mae’n edrych yn bur debygol nawr y bydd Hull yn disgyn lawr i’r Bencampwriaeth, a hynny ar ôl iddyn nhw golli 2-0 yn erbyn Spurs.
Bydd yn rhaid i dîm James Chester ennill yn erbyn Man United ar y diwrnod olaf os ydyn nhw am unrhyw obaith o aros yn y gynghrair.
Ond fe fyddai buddugoliaeth i Hull yn golygu bod Paul Dummett a Newcastle yn mynd lawr yn eu lle oni bai eu bod hwythau yn ennill yn erbyn West Ham wythnos nesaf.
Yr unig ffordd realistig y gallai timau’r ddau aros fyny yw os ydyn nhw’n ennill eu gemau olaf a bod Sunderland yn colli eu dwy gêm olaf, yn erbyn Arsenal a Chelsea.
Mae Caerlŷr yn saff fodd bynnag ar ôl sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Sunderland, gydag Andy King yn chwarae’r gêm lawn ac yn gweld ei dîm yn cwblhau adferiad oedd yn edrych amhosib ychydig wythnosau yn ôl.
Roedd y penwythnos yma hefyd yn ddiwedd ar obeithion Abertawe o gyrraedd Ewrop y tymor nesaf, ar ôl iddyn nhw golli 4-2 i Man City gyda thri Chymro – Ashley Williams, Neil Taylor a Jazz Richards – yn eu hamddiffyn.
Sôn am amddiffynwyr Cymru, fe fydd Chris Coleman yn croesi bysedd bod James Collins yn ffit ar ôl i’r cefnwr ddod oddi ar y cae i West Ham ar ôl dim ond 14 munud gydag anaf.
Un fydd ychydig yn fwy parod na Collins ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Gwlad Belg mewn llai na pedair wythnos fydd Wayne Hennessey, a ddechreuodd yn y gôl i Crystal Palace wrth iddyn nhw drechu Lerpwl.
Fe chwaraeodd Joe Ledley gêm lawn i Palace hefyd wrth iddyn nhw ennill 3-1, ond roedd Joe Allen a Danny Ward ar y fainc i Lerpwl wrth i sgript parti ffarwelio Steven Gerrard gael ei sbwylio.
Mae Arsenal bron yn saff o orffen o leiaf yn y trydydd safle, a hynny ar ôl iddyn nhw frwydro nôl i gipio gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Man United diolch yn rhannol i berfformiad Aaron Ramsey yn yr ail hanner.
Fe ddaeth Sam Vokes oddi ar y fainc am ychydig funudau wrth i Burnley gael gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Stoke yng ngêm gartref olaf eu tymor.
Ac ar benwythnos olaf ond un Uwch Gynghrair yr Alban fe chwaraeodd Adam Matthews, Kyle Letheren, Ash Taylor a Marley Watkins i’w clybiau.
Seren yr wythnos – Andy King. Perfformiad da arall gan y Cymro, sydd wedi bod yn ganolog rediad llwyddiannus diweddar Caerlŷr.
Siom yr wythnos – Gareth Bale. Diwedd siomedig i dymor rhwystredig yn Sbaen i seren fwyaf Cymru.