Mae Morgannwg wedi enwi eu carfan ar gyfer ymweliad Swydd Essex â Stadiwm Swalec ddydd Llun, ac mae dau newid i’r tîm a drechodd Swydd Gaint yr wythnos diwethaf.

Mae Dean Cosker allan ar ôl perfformiad campus yn y T20 ar gae’r Oval nos Wener, ond mae Ruaidhri Smith ac Andrew Salter wedi’u cynnwys yn y deuddeg.

Un ystadegyn sy’n cysylltu Smith a Salter yw eu bod nhw, ill dau, wedi cipio wiced gyda’u pelen gyntaf yn y Bencampwriaeth ddau dymor yn ôl.

Mae Morgannwg yn ddi-guro yn ail adran y Bencampwriaeth y tymor hwn, ac maen nhw un safle’n uwch na Swydd Essex yn y tabl.

Pan ddaeth y ddwy sir ben-ben â’i gilydd yn Sain Helen y tymor diwethaf, cipiodd y troellwr llaw chwith Monty Panesar 11 o wicedi yn yr ornest.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Swydd Essex yn eu deg gêm ddiwethaf yn erbyn ei gilydd yn y Bencampwriaeth.

O ran cerrig milltir personol, mae angen 14 o rediadau ar y wicedwr Mark Wallace i gyrraedd y nod o 10,000 o rediadau dosbarth cyntaf i Forgannwg a phe bai’n llwyddo, Wallace fyddai’r wicedwr cyntaf i gyflawni’r nod i Forgannwg, a’r 24ain chwaraewr yn gyffredinol.

Mae nifer o chwaraewyr Swydd Essex wedi’u hanafu, gan gynnwys Tom Westley, Mark Pettini a Jesse Ryder, ond mae Ryder yn gobeithio bod yn holliach ar gyfer yr ornest T20 yn Stadiwm Swalec nos Wener.

Mae Ryan ten Doeschate wedi’i gynnwys yn y garfan yn dilyn cyfnod yn India yn chwarae i’r Kolkata Knight Riders yn yr IPL.

Carfan 12 dyn Morgannwg: J Kettleborough, J Rudolph (capten), W Bragg, C Ingram, C Cooke, M Wallace, G Wagg, D Lloyd, C Meschede, R Smith, A Salter, M Hogan

Carfan 13 dyn Swydd Essex: J Foster (capten), N Browne, J Mickleburgh, D Lawrence, K Velani, G Smith, C Taylor, G Napier, D Masters, J Porter, T Moore, A Malik, R ten Doeschate