Abertawe 2–4 Man City
Mae gobeithion Abertawe o gyrraedd Cynghrair Ewropa’r tymor nesaf ar ben wedi iddynt golli yn erbyn Man City ar y Liberty brynhawn Sul.
Roedd angen buddugoliaeth ar yr Elyrch i aros yn y frwydr am seithfed safle’r Uwch Gynghrair tan y gêm olaf, ond wythfed fyddant bellach ar ôl colli mewn gêm gyffrous.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi ugain munud o chwarae pan wyrodd ergyd Yaya Touré heibio i Lucasz Fabianski yn y gôl.
Dyblwyd y fantais chwarter awr yn ddiweddarach pan orffennodd James Milner wrthymosodiad chwim gydag ergyd grefftus.
Roedd Abertawe yn ôl y gêm serch hynny yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf pan sgoriodd Gylfi Sigurdsson o ochr y cwrt cosbi yn dilyn gwaith da Neil Taylor.
Roedd y sgôr yn gyfartal toc wedi’r awr diolch i gôl Bafetimbi Gomis.
Aeth Man City yn ôl ar y blaen serch hynny chwarter awr o’r diwedd pan adawodd Fabianski i ergyd Touré wasgu heibio iddo.
Gorffennodd y gêm gyda gôl i Wilfred Bony yn erbyn ei gyn glwb, y blaenwr yn gorffen yn daclus ar ôl cael derbyniad ffafriol gan dorf y Liberty wrth ddod ymlaen fel eilydd ychydig funudau’n gynharach.
Mae’r canlyniad yn golygu mai wythfed fydd safle terfynol Abertawe yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn. Mae eu gêm olaf yn oddi cartref yn erbyn Crystal Palace ddydd Sadwrn.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Richards, Fernandez, Williams, Taylor, Cork, Shelvey (Britton 78′), Dyer (Barrow 73′), Sigurdsson (Emnes 83′), Montero, Gomis
Goliau: Sigurdsson 45’, Gomis 64’
.
Man City
Tîm: Hart, Zabaleta, Demichelis, Mangala, Kolarov, Y Touré (Bony 85′), Fernandinho (Kompany 80′), Milner, Lampard (Jesús Navas 59′), Silva, Agüero
Goliau: Toure 21’, 74’, Milner 36’, Bony 90’
Cardiau Melyn: Milner 50’, Zabaleta 61’, Fernandinho 77’
.
Torf: 20,669