Treviso 13–33 Gweilch
Sicrhaodd cais Rhys Webb yn symudiad olaf y gêm bwynt bonws i’r Gweilch wrth iddynt ymweld â’r Stadio Comunale di Monigo i wynebu Treviso yn y Guinness Pro12 nos Wener.
Doedd dim sicrwydd y byddai’r Gweilch yn ennill y gêm hyd yn oed a hwythau ar ei hôl hi hanner ffordd trwy’r ail hanner, ond croesodd y Cymry am dri chais yn y chwarter awr olaf i sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws holl bwysig.
Hanner Cyntaf
Rhoddodd cic gosb gynnar Dan Biggar y Gweilch ar y blaen ond er mai’r ymwelwyr oedd y tîm gorau yn y chwarter agoriadol roedd Treviso yn gyfartal hanner ffordd trwy’r hanner diolch i dri phwynt o droed Jayden Hayward.
Rhoddodd ail gic Biggar y Gweilch yn ôl ar y blaen cyn i Eli Walker groesi am gais cyntaf y gêm gyda symudiad olaf yr hanner cyntaf. Torrodd yr asgellwr trwy dair tacl cyn sgorio i orffen cyfnod da o bwyso, 3-11 y sgôr ar yr hanner.
Ail Hanner
Treuliodd y Gweilch ugain munud ar ddechrau’r ail hanner gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cardiau melyn braidd yn hallt i Nicky Smith a Webb.
Manteisiodd Treviso’n llawn ac roeddynt ar y blaen ar yr awr yn dilyn cais i Simone Ragusi, a throsiad a chic gosb gan Hayward, 13-11 y sgôr.
Tarodd y Gweilch yn ôl o’r diwedd gyda chwarter awr i fynd gyda chais Dan Evans yn dilyn rhagor o waith da gan Walker.
Llwyddodd Biggar gyda chic gosb i roi mymryn o olau dydd rhwng y ddau dîm ond dim ond un sgôr oedd rhyngddynt tan i Justin Tipuric gyfuno’n dda gyda Webb i groesi am drydydd cais y Gweilch ddau funud o’r diwedd.
Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel felly ond trodd golygon y Gweilch at y pwynt bonws, ac yn dilyn gwaith da gan Josh Matavesi a Tom Grabham mewn symudiad o’u hanner eu hunain fe groesodd Webb am y pedwerydd cais holl bwysig.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Gweilch ym mhedwar uchaf y Pro12, maent yn ail gyda thair gêm o’r tymor arferol i fynd.
.
Treviso
Cais: Simone Ragusi 50’
Trosiad: Jayden Hayward 51’
Ciciau Cosb: Jayden Hayward 21’, 55’
Cerdyn Melyn: Enrico Bacchin 26’
.
Gweilch
Ceisiau: Eli Walker 40’, Dan Evans 65’, Justin Tipuric 78’, Rhys Webb 80’
Trosiadau: Dan Biggar 79’, 80’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 3’, 27’, 72’
Cardiau Melyn: Nicky Smith 42’, Rhys Webb 54’