Mae pedwar rhanbarth Cymru wedi cyhoeddi’r timau fydd yn cynrychioli’r rhanbarthau ym Mhencampwriaeth Premiership 7.
Bydd y gystadleuaeth rygbi saith bob ochr rhwng y pedwar rhanbarth yn cael ei chynnal ym Mharc yr Arfau ddydd Sadwrn a bydd y ddau orau yn mynd ymlaen i gystadlu yn erbyn goreuon timau rygbi 7 Uwch Gynghrair Lloegr yn Twickenham ar 8 Awst.
Dyma’r tro cyntaf i dimau o Gymru gymryd rhan yn y gystadleuaeth ac mae’n rhan o bartneriaeth rhwng Rygbi Rhanbarthol Cymru ac Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae disgwyl wedi bod y bydd y rhanbarthau yn rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc sy’n rhan o academi’r gwahanol ranbarthau, neu o dimau eraill o fewn ffiniau’r rhanbarthau.
Ond pwy fydd yn chwarae i dimau rhanbarthol Cymru?
Dreigiau
Hyfforddwr: Nick Wakely
Tîm: James Benjamin, James Thomas, Rhys Jones, Dorian Jones, Oli Griffiths, Harri Keddy, Owen Davies, Elliot Frewen, Sam Cross, Lewis Hudd, Jonny Lewis, Ed Tellwright, Matthew Pewtner, Scott Matthews
Gleision
Hyffroddwr: Richard Smith
Tîm: Ellis Wyn Benham, Seb Davies, Richard Smith (capt), Dafi Davies, Ben Roach, Garyn Smith, Tom Williams, Owen Jenkins, Tomos Williams, Geraint Walsh, Dan Fish, Aled Summerhill
Gweilch
Hyffroddwyr: Dan Griffiths ac Ashley Beck
Tîm: Matthew Jenkins, Evan Yardley, Jordan Collier, Morgan Allen, Ross Jones (capt), Joe Gage, Morgan Williams, Kristian Corbisiero, Chris Williams, Steff Andrews, Rob Dudley-Jones, Joel Matavesi
Scarlets
Hyffroddwr: Richie Pugh
Tim: Sion Bennett, Darran Harris, Rory Pitman, Michael Tagicakibau, Chris Banfield, Dai Treharne, Lee Rees, Connor Lloyd, Kristian Phillips (capt), Josh Lewis, Aaron Warren, Kyle Evans