Ddydd Llun 30 Mehefin, 2014 daeth cyfnod y Cytundeb Cyfranogiad blaenorol gydag Undeb Rygbi Cymru i ben.
Yn anffodus mae’r Rhanbarthau yn gresynu i gadarnhau er gwaethaf y broses o alwadau ffôn cyson a chyfarfodydd ers y 6ed o Ionawr mae’r amodau masnachol ac ariannol y gofynnir amdanynt yn gwbl afresymol.
Mae’r Rhanbarthau yn ddiolchgar am waith ac ymdrechion Prif Hyfforddwr Cymru i geisio cael cytundeb.
Mae’r datganiadau cyhoeddus Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru sy’n cyfeirio at yr angen am y brys yn cael ei groesawu ynghyd a sefyllfa gadarnhaol aelodau unigol o Fwrdd Undeb Rygbi Cymru.
Nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu ac yn ôl y Rhanbarthau am bob cam ymlaen, mae yna ddau tuag yn ôl.
Mae’r Rhanbarthau wedi gwneud pob ymdrech posibl i ddod i gytundeb cadarnhaol er budd y ddwy ochr ac i sicrhau gêm broffesiynol gynaliadwy a chystadleuol yng Nghymru ar lefel rhanbarthol ac yn rhyngwladol. Maent yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig yn y gobaith o gyrraedd yr ateb hwnnw.
Ar ôl misoedd o drafod mae’n rhaid i’r 4 Rhanbarth ystyried gweithredu o fewn model busnes sydd ddim yn cynnwys cytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru a heb gymorth yr Undeb yn natblygiad Rygbi Rhanbarthol Proffesiynol.