Mae cynnwys myfyriwr o Brifysgol Caerwysg, Luke Treharne, yng ngharfan saith bob ochr Cymru ar gyfer gemau’r Gymanwlad yn Glasgow wedi peri dipyn o syndod.
Mae Gareth Davies, Jevon Groves a Will Harries yn dychwelyd i chwarae rygbi saith bob ochr ar ôl bod yn canolbwyntio ar rygbi rhanbarthol yn ystod y tymhorau diwethaf. Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Gareth Williams, wedi cyfaddef ei fod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd gyda rhai chwaraewyr sydd wedi chwarae yn rheolaidd fel Will Price, Sam Cross, Jason Harries a Rhys Jones yn methu cael eu dewis i’r garfan.
‘‘Rwy’n credu bod gyda ni garfan gyffrous a thipyn o brofiad. Yr ydym wedi gosod targedau i ni ein hunain a fydd yn aros o fewn y garfan,’’ meddai Williams.
Treharne yw’r unig chwaraewr yn y garfan sydd heb gap yn chwarae saith bob ochr ond mae ganddo brofiad o chwarae’r gêm. Yr oedd yn aelod o garfan myfyrwyr Prydain Fawr a wnaeth ennill Pencampwriaeth y Byd yn Brive ddwy flynedd yn ôl.
‘‘Yr ydym wedi bod yn gwylio Luke ers peth amser ac mae wedi gwneud yn dda yn ystod yr ymarfer. Hefyd mae ganddo’r gallu i chwarae fel rhif 9 a 10,’’ ychwanegodd Williams.
Er bod Groves a Will Harries wedi bod yn canolbwyntio are u rygbi rhanbarthol yn ddiweddar mae Williams yn credu y gallant greu argraff yn Glasgow. Mae Harries wedi ennill 3 cap i’r tîm cenedlaethol. Yn ôl Williams mae Jevon Groves yn arweinydd ac yn bresenoldeb yn y tîm ac mae Harries bob amser yn fygythiad. Yn dilyn Gemau’r Gymanwlad bydd y capten Adam Thomas yn dechrau ar ei yrfa gyda rhanbarth y Gleision a James Davies gyda’r Scarlets.
Bydd Cymru yn chwarae Samoa, Papua New Guinea a Malaysia sydd yn yr un grŵp â nhw.