Mae’r Gweilch yn falch bod y cefnwr Ross Jones wedi arwyddo cytundeb am ddwy flynedd gyda’r rhanbarth. Jones yw’r pymthegfed chwaraewr i ailarwyddo i’r rhanbarth eleni. Bydd yn brwydro am y crys rhif 15 gyda Richard Fussell a Dan Evans a arwyddodd i’r rhanbarth yn ystod yr haf o’r Dreigiau.
Ganwyd Ross Jones yn Llanelli, cyn iddo symud gyda’i deulu i Ddulyn pan yn blentyn. Mae wedi cynrychioli tîm dan 18 oed Iwerddon ac wedi bod ar lyfrau Leinster cyn ymuno â’r Gweilch y llynedd. Mae wedi chwarae i dîm dan 20 oed Cymru ac yr oedd yn aelod o garfan Cymru ym Mhencampwriaeth Iau y Byd yn 2011 yn yr Eidal, ac yn Ne Affrica yn 2012.
Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf i’r Gweilch yn erbyn Caerwysg ym mis Tachwedd 2011. Fe wnaeth ymddangos 14 o weithiau dros y rhanbarth yn ystod tymor 2012/13. Mae ganddo brofiad o chwarae fel cefnwr ac asgellwr ac fe gymerodd ran dros Gymru yn ystod ail hanner y tymor diwethaf yng nghystadleuaeth saith bob ochr yr IRB.
Dywedodd Jones ei fod yn benderfynol o wneud argraff gyda’r Gweilch yn ystod y ddau dymor nesaf.
‘‘Mae’n deimlad braf o fod wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd ac ers dychwelyd i Gymru dyma’r unig fan yr wyf am chwarae rygbi,’’ dywedodd Jones.
‘‘Cefais amser da wrth chwarae yn y tîm saith bob ochr ac fe wnaeth y profiad wella fy ngêm. Yr wyf yn ymwybodol o’r her sydd o’m blaen ac os bydd popeth yn iawn gobeithio y bydd y ddau dymor nesaf yn brofiad da i mi,’’ ychwanegodd Jones.
Dywedodd Andy Lloyd ar ran y Gweilch bod Jones yn ymwybodol o’r her a’r gwaith sydd o’i flaen er mwyn ennill ei le yn y tîm.