Luke Charteris
Mae clo rhyngwladol  Cymru Luke Charteris wedi penderfynu aros yn Ffrainc er iddo adael Perpignam, gan arwyddo i glwb Racing Metro.

Ar hyn o bryd mae Charteris gyda Chymru ar y daith i Dde Affrica.

Bydd Charteris yn ymuno â nifer o’i gyd-chwaraewyr o Gymru yn Racing – Mike Phillips, Dan Lydiate a Jamie Roberts.  Mae Charteris yn 31 oed ac wedi ennill 46 cap, a bu’n ystyried arwyddo ‘cytundeb carfan genedlaethol’ gyda rhanbarth yng Nghymru,  gan obeithio y byddai yr anghydfod rhwng y rhanbarthau a’r Undeb yn dod i ben.

Mae’n debyg bod yna wahaniaeth o tua £4 miliwn yn yr arian mae’r rhanbarthau yn gofyn amdano ar hyn mae’r Undeb yn ei gynnig.  Mae’r anghydfod yma wedi poeni nifer o chwaraewyr Cymru sydd â’u cytundebau yn dod i ben.  Ymhlith y rhain mae’r prop Adam Jones a’r clo Ian Evans.

Yr oedd Evans i fod ymuno â Toulon, sy’n bencampwyr Ewrop a Ffrainc, ar gyfer y tymor nesaf. Ond bu trafferthion ac ni fydd clo’r Gweilch yn symud I Ffrainc wedi’r cwbwl.