Mae’r maswr ifanc Sam Davies wedi arwyddo ei gytundeb proffesiynol cyntaf gyda’r Gweilch. Bydd y cytundeb tair blynedd yn cadw Davies – a gafodd ei enwi’n chwaraewr ifanc gorau’r flwyddyn gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol – ar y Liberty hyd 2017.
Mae’r chwaraewr 20 oed wedi chwarae 20 gêm dros y rhanbarth yn ystod tymor 2013-14 gan ddechrau 15 o weithiau a sgorio 82 o bwyntiau.
‘‘Dyma fy rhanbarth cartref, a rhywle yr wyf yn hapus iawn i fod ynddo. Yr wyf wedi cymryd rhan mewn nifer o gemau yn ystod y tymor, fel cefnwr yn amlach na’r un safle arall ond yr wyf yn hapus i gael amser ar y cae,’’ meddai Davies.
Yn ystod haf 2013 yr oedd Davies yn aelod o dîm dan 20 oed Cymru a lwyddodd i gyrraedd y ffeinal ym Mhencampwriaeth Iau y Byd gan sgorio 61 o bwyntiau yn ystod y gystadleuaeth. Ef yw’r unig Gymro ar wahân i Gavin Henson i ennill gwobr yr IRB.